Cost of Living Support Icon

 

Masnachwyr lleol y stryd fawr yn galw am gefnogaeth yn ystod cyfyngiadau lleol

Mae masnachwyr stryd fawr ar draws Bro Morgannwg yn dweud bod “angen siopwyr nawr yn fwy nag erioed” ar ôl i gyfyngiadau lleol gael eu gosod.

 

  • Dydd Llun, 12 Mis Hydref 2020

    Bro Morgannwg



Mae perchnogion busnesau ledled y Fro yn annog pobl i gefnogi'r stryd fawr yn dilyn cyfyngiadau sydd wedi'u hailgyflwyno'r mis hwn.


Mewn ymgais i gefnogi siopau sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio ei ymgyrch Canol Trefi’r Fro, gan alw ar bobl i barhau i gefnogi busnesau annibynnol sydd wedi gweld masnach yn cael ei heffeithio’n ddifrifol ers yr achosion.


Fel rhan o'r ymgyrch fawr, a ariannwyd ar y cyd trwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cyllid Refeniw Adfer Covid, a Chyngor Bro Morgannwg, anogir siopwyr i fynd i'r strydoedd mawr yn y Barri, y Bont-faen, Penarth a Llanilltud Fawr.


Daw hyn ar ôl i ymchwil gan y cyngor ddatgelu bod 55% o fusnesau wedi dweud bod y pandemig wedi cael effaith ddifrifol arnyn nhw, gyda dros hanner y busnesau yn credu na fydd eu stryd fawr yn gwella.  Mae hyder busnes ymhlith y rhai ar y stryd fawr wedi suddo i’w lefel isaf erioed, gydag ofnau ynghylch nifer yr ymwelwyr a phroffidioldeb.


Fodd bynnag, mae’r cyngor yn ceisio tawelu meddwl siopwyr fod strydoedd mawr lleol yn “hollol barod” i’w helpu i siopa’n ddiogel.


Mewn ymgais i annog pobl yn ôl i'r stryd fawr, mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at y mesurau iechyd a diogelwch ychwanegol y mae siopau ledled Bro Morgannwg wedi'u rhoi ar waith. Mae'r rhain yn cynnwys gosod gorsafoedd glanweithdra dwylo, staff yn gwisgo PPE, marcwyr pellter dau fedr yn y siop, systemau unffordd mewn siopau, taliadau digyswllt, a marcwyr ciw.


Mae Lis Burnett, Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio a Dirprwy Arweinydd y Cyngor yn annog siopwyr i gefnogi eu strydoedd mawr lleol yn ystod yr adeg heriol hon, ac ychwanegodd “maen nhw eich angen chi nawr yn fwy nag erioed”.

“Mae busnesau sy’n cael eu rhedeg yn annibynnol yn gwbl ddibynnol ar gefnogaeth trigolion lleol er mwyn goroesi - heb hynny ni fydd ein strydoedd mawr byth yn gwella.


“Dyna pam ‘dyn ni’n lansio’r ymgyrch hon ac yn taflu ein cefnogaeth lawn y tu ôl i’n strydoedd mawr hanfodol.


“Wrth i ni fynd i mewn i gyfyngiadau lleol, rydym yn annog pawb i gefnogi’r ymgyrch hon trwy wneud eu rhan i gefnogi busnesau yn y Bont-faen, y Barri, Penarth a Llanilltud Fawr.


“Mae ein hymchwil yn dangos bod 67% o bobl wedi blaenoriaethu siopa lleol ers y cyfyngiadau cloi - mae hon yn duedd y mae'n rhaid iddi barhau a bydd yn cael effaith sylweddol fuddiol ar strydoedd mawr lleol.


“Mae ein masnachwyr anhygoel wedi gweithio’n ddiflino i gefnogi eu cymunedau yn ystod y cyfyngiadau cloi, a byddant yn gwneud hynny eto wrth i ni fynd i mewn i gyfyngiadau lleol.


“P'un ai os ydych chi'n siopa am rywbeth mawr neu fach, mae popeth yn helpu. Dangoswch eich cefnogaeth a meddyliwch yn lleol, maen nhw eich angen chi nawr yn fwy nag erioed. " - Cynghorydd Lis Burnett

 

Mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch ymhlith trigolion y Fro, bydd busnesau'r stryd fawr yn arddangos sticeri a phosteri yn eu siopau ac ar-lein, yn galw ar bobl i ddangos eu cefnogaeth, arbed swyddi lleol, a chadw calon y gymuned.


Bydd bagiau siopa hyrwyddo a glanweithyddion dwylo hefyd yn cael eu dosbarthu ac anogir preswylwyr i ail-lenwi eu glanweithyddion yn eu tref leol - Awesome Wales (Barri), Awesome Wales (Y Bont-Faen), Major Refill (Llanilltud Fawr) a Foxy’s Deli (Penarth).