Ap newydd parcio ceir yn cael ei gyflwyno i bum lleoliad
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cyflwyno gwasanaeth taliadau parcio newydd i bum safle o amgylch y Sir.
Bydd meysydd parcio yn Harbour Road a Thrwyn Nell ar Ynys y Barri yn elwa o'r system yn ogystal â meysydd Rivermouth a Brig y Don yn Aberogwr a maes Cymlau yn Southerndown.
Gan ddefnyddio ap wedi'i gynllunio'n arbennig, a grëwyd gan PayByPhone, gall defnyddwyr brynu parcio yn ddibynadwy ac yn gyflym o'u ffônau symudol.
Bydd ymwelwyr sy'n talu am barcio fel hyn hefyd yn sylwi ar ostyngiad yn y gost o gymharu â defnyddio dull talu heb arian parod blaenorol y Cyngor.

Mae'r meddalwedd mwy hyblyg yn golygu y gall cwsmeriaid ddechrau neu ymestyn eu cyfnod parcio â blaen bys.
Mae’r ap, y gellir ei lawrlwytho o www.paybyphone.co.uk, Google Play ac Apple App Store, hefyd yn cynnwys nodwedd mapiau sy'n caniatáu i yrwyr ddod o hyd i barcio cyn iddynt adael am eu cyrchfan.
Gall gyrwyr roi eu lleoliad cerbyd ar y map unwaith y byddant wedi parcio ac mae'r nodwedd barcio gyfagos yn darparu'r rhif lleoliad parcio PayByPhone agosaf ar unwaith.
Mae'r system newydd yn mynd yn fyw ddydd Iau, 8 Hydref a gellid ei chyflwyno i faesydd parcio eraill o amgylch y Fro yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwy'n gwybod bod rhai defnyddwyr wedi cael problemau o'r blaen wrth geisio talu am barcio ceir gan ddefnyddio eu ffonau symudol.
"Rydym yn gobeithio y bydd y system newydd hon a weithredir gan PayByPhone yn cynnig ffordd syml a dibynadwy o brynu parcio yn y modd hwn. Dylai fod yn rhatach ac yn haws ei ddefnyddio na'r gwasanaeth ffonau symudol blaenorol.
"Mae system ddi-gyswllt fel hon yn arbennig o fuddiol ar hyn o bryd gan y bydd hefyd yn helpu i atal Covid-19 rhag lledaenu."