Cost of Living Support Icon

 

System ailgylchu ddidoli yn cael ei chyflwyno yn y Barri 

MAE system ailgylchu ddidoli newydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael ei chyflwyno i'r Barri o'r wythnos sy'n dechrau Ddydd Llun, 19 Hydref

 

  • Dydd Mawrth, 13 Mis Hydref 2020

    Barri



Dylai preswylwyr ddechrau defnyddio eu bagiau oren, eu bagiau gwynion a'u cadis llwyd newydd bryd hynny. Dylai'r rhain fod wedi'u danfon i gartrefi yr effeithir arnynt ynghyd â thaflen esboniadol. 


Bydd y cynwysyddion newydd yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â bagiau glas presennol, cadis gwastraff bwyd gwyrdd a bagiau gwastraff gardd gwyrdd. 

 

Changes to recycling in Barry Welsh

 Gall unrhyw un nad yw wedi derbyn un o'r cynwysyddion newydd eu harchebu o wefan y Cyngor, lle gellir gofyn am gyflenwadau ffres o'r bagiau eraill hefyd ac mae rhestr lawn o'r hyn y gellir ac na ellir ei ailgylchu.


Nid yw'r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno ar hyn o bryd i fflatiau nac adeiladau fflatiau sydd â storfeydd biniau cymunedol, er bod cynlluniau i wneud hynny yn ddiweddarach eleni.


Fodd bynnag, mae preswylwyr sy'n byw mewn fflatiau sy'n gosod eu gwastraff a'u hailgylchu ar hyn o bryd wrth ymyl y ffordd wedi'u cynnwys yn y newidiadau.  


Bydd y system newydd, sydd eisoes ar waith mewn rhannau eraill o'r Fro, yn ei gwneud yn ofynnol i breswylwyr ddidoli rhai elfennau o'u hailgylchu mewn cynwysyddion unigol.


Bydd hyn yn golygu y gellir ailgylchu mwy o'r deunydd a gesglir, gan leihau effaith niweidiol gwastraff domestig ar yr amgylchedd naturiol, ac mae’n fwy cost effeithiol.

 

Bydd gan y cerbydau newydd a fydd yn casglu eich ailgylchu wahanol rannau ar gyfer gwahanol ddeunyddiau a bydd ein criwiau casglu yn rhoi eich ailgylchu yn uniongyrchol i’r rhannau cywir.


Yna, bydd criwiau yn plygu bagiau ac yn eu gosod y tu mewn i'r cadi llwyd ar ymyl y ffordd y tu allan i gartref preswylydd ac yna fe gludir yr ailgylchu sych a wahanwyd i gyfleuster prosesu yn y Bont-faen.


Anogir aelwydydd i osod dim mwy na dau fag du o wastraff na ellir ei ailgylchu i’w gasglu bob pythefnos, ond bydd hyd at bedwar yn cael eu derbyn am gyfnod dros dro.Recycling-containers (002)

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth:  Cyn bo hir, byddwn yn cychwyn ar gam nesaf rhaglen datblygu ailgylchu'r Cyngor yn dilyn ei lansio'n llwyddiannus mewn rhannau eraill o’r Fro y llynedd.  Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i drigolion y Barri wahanu ailgylchu i fagiau unigol i'w casglu wrth ymyl y ffordd. 


Mae'r trefniant newydd, a fydd yn dechrau ar 19 Hydref, yn cynnwys gosod cardfwrdd mewn bag oren, papur mewn bag gwyn, gwydr mewn cadi plastig llwyd a phlastig a thuniau mewn bagiau glas sy'n bod eisoes. Bydd gwastraff bagiau du, gwastraff gwyrdd a gwastraff cegin yn parhau i gael eu casglu yn yr un modd, gan ddefnyddio'r un cynwysyddion.


Mae gwahanu gwastraff fel hyn yn golygu y gellir ailgylchu cyfran uwch o'r deunydd ac felly mae'n system fwy effeithlon. Bydd hyn wedyn yn cael ei werthu i farchnadoedd yn y DG y byddw ni ein hunain yn eu canfod.”