Cost of Living Support Icon

 

Cyflwyno mesurau cloi rhagofalus i Fro Morgannwg

Mae mesurau cloi rhagofalus i'w cyflwyno i Fro Morgannwg mewn ymdrech i gadw cynnydd yn nifer yr achosion Covid-19 dan reolaeth.

28 Medi 2020

 

O 6pm heddiw (dydd Llun, 28 Medi), bydd y cyfyngiadau ychwanegol canlynol yn berthnasol o fewn ardal yr Awdurdod Lleol.

 

 

  • Ni all pobl adael y Sir na dod i mewn heb esgus rhesymol.
  • Bydd trefniadau aelwydydd estynedig yn cael eu hatal dros dro. Bydd hyn yn golygu na chaniateir cyfarfod dan do yn eich cartref, mewn caffi, bar na bwyty ag unrhyw un nad yw’n rhan o’ch aelwyd uniongyrchol.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Nid yw hwn wedi bod yn benderfyniad hawdd ac rwy’n ymwybodol y bydd yn cael effaith fawr ar fywydau preswylwyr.  Fodd bynnag, mae nifer yr achosion o Covid-19 yn ardal ein hawdurdod lleol yn parhau i godi ac mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau pellach nawr i fynd i'r afael â'r sefyllfa honno.


"Mae'r cyfyngiadau hyn yn cael eu cyflwyno ar ôl ymgynghori'n agos ag arbenigwyr iechyd y cyhoedd, Bwrdd Iechyd y Brifysgol, yr Awdurdod Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Llywodraeth Cymru er mwyn osgoi sefyllfa fel y gwelsom yn gynharach yn y flwyddyn. Rydym i gyd wedi gweithio'n galed i adfer o'r pwynt hwnnw chwe mis yn ôl ac rwy’n gwerthfawrogi'r ymdrech honno'n fawr. Nawr rwy'n galw am benderfyniad pellach i helpu i sicrhau nad yw'r dyddiau hynny'n dychwelyd.


"Rwy'n ymwybodol y bydd y cyhoeddiad hwn yn cael effaith economaidd a bydd ein timau'n gweithio gyda busnesau, fel y maent wedi bod drwy'r pandemig, i helpu i leihau maint yr effaith honno. Gobeithio na fydd angen i'r cyfyngiadau hyn fod mewn grym yn hir a thrwy weithredu nawr gallwn atal sefyllfa fwy difrifol yn nes ymlaen.


"Dylai pawb fod yn glir ynghylch y canllawiau ynghylch golchi dwylo, ymbellhau'n gymdeithasol, gwisgo masgiau, hunanynysu a chael prawf. Gwn fod y rhan fwyaf o drigolion yn dilyn y rheolau hyn yn llym, a hynny ar aberth personol mawr. Diolch. Mae'r cyfyngiadau ychwanegol hyn wedi'u cynllunio i'n helpu i gadw rheolaeth agosach dros y feirws, gan leihau ymhellach y cyfle iddo ledaenu. Byddant yn helpu i'ch amddiffyn chi, eich teulu a'ch ffrindiau yn ogystal â'r henoed a'r rhai sy'n agored i niwed, sydd fwyaf mewn perygl.


"Rwy'n deall nad yw'n hawdd byw gyda’r rheolau hyn ac ni fyddem yn gofyn i breswylwyr eu dilyn os nad oedd hynny’n gwbl angenrheidiol. Yn anffodus, maen nhw yn hanfodol, ac mae'n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i amddiffyn ein hunain, ein teuluoedd a'n cymunedau i oresgyn y feirws ofnadwy hwn."


Mae cyfradd heintio Covid-19 wedi codi'n sydyn yn y Fro dros yr wythnosau diwethaf, gyda'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 31.4 o bobl o bob 100,000 yn cael diagnosis o'r feirws bob wythnos. 

 

Mae cyngor iechyd y cyhoedd yn awgrymu bod pobl o wahanol aelwydydd yn cyfarfod dan do yng nghartrefi ei gilydd neu'n gymdeithasol wedi cyfrannu’n sylweddol at y cynnydd. Yn ogystal, mae'r feirws wedi lledu ar draws y rhanbarth wrth i bobl deithio i gymdeithasu mewn ardaloedd eraill, gan fynd ag ef gyda nhw, neu ddod ag ef yn ôl ar ôl iddynt ddychwelyd.


Dan gyfyngiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach yn yr wythnos, rhaid i fusnesau lletygarwch a siopau diodydd trwyddedig gau am 10pm. 


Daw hynny ar ben y cyfarwyddiadau presennol sydd eisoes ar waith, sy'n cynnwys:

  • Rhaid i bobl weithio gartref pan fo hynny’n bosibl.
  • Gwisgo masg dan do mewn mannau cyhoeddus.
  • Cadw pellter cymdeithasol bob amser.
  • Golchi dwylo'n rheolaidd.
  • Aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau, neu os gofynnir i chi wneud hynny gan swyddog olrhain cysylltiadau
  • Cael prawf os oes gennych symptomau.

Dan y cyfyngiadau ychwanegol hyn, bydd lleoliadau cyhoeddus dan do, megis bariau, tafarndai a bwytai yn parhau i fod ar agor i drigolion y Fro yn unig a dim ond gydag aelodau o'r un aelwyd y dylid ymweld â hwy. 


Ni ddylai unigolyn fynd i mewn i ardal Awdurdod Lleol Bro Morgannwg na'i gadael ar wahân i achosion eithriadol, ac mae'r manylion i'w gweld ar wefan y Cyngor a gwefan Llywodraeth Cymru.

 

Mae'r rhain yn cynnwys: bod yn weithiwr allweddol, mynd i weithio lle mae'n amhosibl gweithio gartref, mynychu'r ysgol neu'r coleg, ymweld â pherthynas oedrann

us neu agored i niwed, mynychu apwyntiad meddygol neu brynu eitemau hanfodol na ellir cael mynediad iddynt yn lleol.

 

Ni chaniateir ffurfio aelwyd estynedig na "swigod" mwyach. Caiff eich aelwyd uniongyrchol, sy'n golygu y rhai sy'n byw yn yr un cartref, gyfarfod ag eraill y tu allan yn unig a rhaid cadw pellter cymdeithasol.


Mae rhai eithriadau i hyn. Er enghraifft, os oes rhaid i chi ymweld â pherson oedrannus neu agored i niwed i ofalu amdano, neu os ydych yn gofalu am blentyn nad oes ganddo rywun sy'n byw gyda nhw a all gyflawni'r rôl honno.


Mae cyfarfod yn yr awyr agored mewn grwpiau o hyd at 30 o bobl o fewn Bro Morgannwg yn dal i gael ei ganiatáu, er ei bod yn bwysig cadw pellter cymdeithasol mewn lleoliad o'r fath.


Bydd ysgolion a sefydliadau addysgol eraill yn parhau ar agor a bydd cludiant rhwng y cartref a’r ysgol neu’r sefydliad addysgol yn parhau yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Cyfyngir ymweliadau â chartrefi gofal y Cyngor i'r tu allan yn unig gyda threfniadau ymbellhau cymdeithasol yno hefyd. 


Mae'r Cyngor yn annog cymunedau i gydweithio a chefnogi ei gilydd yn ystod y pandemig. Mae'r ymateb cymunedol wedi bod yn eithriadol hyd yma, a thrwy barhau i gydweithio, y gobaith yw na fydd yn rhaid i'r cyfyngiadau hyn fod ar waith am gyfnod sylweddol o amser.  


I unrhyw un sy'n cael eu hunain mewn argyfwng oherwydd y pandemig coronafeirws, gallant gysylltu â Thîm Cymorth Argyfwng y Cyngor ar 01446 729592. Gellir dod o hyd i wybodaeth am gymorth a chefnogaeth sydd ar gael gan y Cyngor a Grwpiau Cymunedol ar ein gwefan

 

Arwyr y Fro

 

Bydd swyddogion yr Heddlu a'r Cyngor yn gorfodi'r holl gyfyngiadau hyn, a bydd unigolion a busnesau yn wynebu cosbau os nad ydynt yn cydymffurfio.  


Ceir rhagor o wybodaeth ar y coronafeirws, gan gynnwys pryd a sut i gael prawf, ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Gwybodaeth bellach ar y coronafirws oddi wrth Llywodraeth Cymru

 

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, BIP Caerdydd a'r Fro: "Ein blaenoriaeth yw cadw poblogaeth Caerdydd a Bro Morgannwg yn ddiogel ac mewn partneriaeth â'r ddau Awdurdod Lleol rydym wedi bod yn monitro achosion Covid-19 yn y ddau ranbarth. 

 

"Nid yw'r penderfyniad i weithredu cyfyngiadau lleol wedi'i wneud ar chwarae bach, ond wrth wneud hynny rydym yn obeithiol y bydd hyn yn lleihau nifer yr heintiau newydd. Er hynny, gall y niferoedd barhau i godi cyn i ni ddechrau gweld gostyngiad, oherwydd cyfnod magu’r clefyd. 

 

"Rydym yn ymwybodol iawn o'r aberth rydym i gyd wedi'i wneud hyd yma eleni a bydd y mesurau ychwanegol hyn yn ein galluogi i barhau i amddiffyn ein teuluoedd a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Byddwn yn parhau i adolygu'r mesurau'n rheolaidd ac yn adolygu eu heffaith yn ffurfiol ymhen pythefnos. 

 

"Mae'n bwysig bod preswylwyr yn glynu wrth y canllawiau a nodir ac yn aros yn ardaloedd eu hawdurdod lleol. Mae hyn yn golygu na ddylai trigolion Caerdydd a Bro Morgannwg groesi ffiniau oni bai ei fod am resymau hanfodol fel teithio i'r gwaith lle na ellir gwneud hyn o'i gartref, darparu gofal a chymorth, a phrynu eitemau hanfodol. Dylai aelwydydd hefyd roi’r gorau i unrhyw drefniadau aelwydydd estynedig y maent wedi'u gwneud, a pheidio â chyfarfod dan do â theuluoedd eraill y tu allan i'w cartref eu hunain, ar wahân i eithriadau penodol megis ar sail dosturiol neu les. Gallwch barhau i gwrdd â ffrindiau a theulu yn yr awyr agored gan ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol, hyd at uchafswm o 30 o bobl. 

 

"Fel Bwrdd Iechyd, rydym eisoes wedi atal ymweliadau â’n hysbytai yr wythnos hon i amddiffyn cleifion a'n gwasanaethau ac rydym wedi gorfodi gwisgo masgiau ym mhob un o'n safleoedd gofal iechyd. "Mae'n bwysig ein bod i gyd yn cymryd cyfrifoldeb personol i ddilyn y rheolau a fydd yn helpu i gadw Caerdydd a Bro Morgannwg yn ddiogel."

 

Diweddariadau'r Coronafirws