Cost of Living Support Icon

 

Gwaith datblygu tai cymdeithasol bron â'i gwblhau

Mae gwaith ar brosiect gwerth £3.5 miliwn i gynyddu stoc dai Cyngor Bro Morgannwg bron â'i gwblhau.

 

  • Dydd Mercher, 16 Mis Medi 2020

    Bro Morgannwg



brec3Mae Jehu Group wedi adeiladu 28 o gartrefi pwrpasol newydd yn Llys Llechwedd Jenner, neu Brecon Court yn flaenorol.
 
Mae'r eiddo wedi'u gorffen i safon uchel iawn a byddant ar gael yn fuan i denantiaid tai cymdeithasol, gan ddarparu cartrefi i'r rheini yn y gymuned sydd eu hangen fwyaf.
 

 

 


Wedi’u hadeiladu ar safle hen lety gwarchod a’i ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, mae’r cynllun yn cynnwys naw tŷ â dwy ystafell wely, pedwar cartref teuluol â thair ystafell wely a 15 fflat un ystafell wely sy’n cael eu cadw ar gyfer pobl hŷn.
 
Dyma'r gyntaf mewn cyfres o brosiectau a fydd yn adfywio ac yn darparu tai y mae mawr eu hangen mewn ardaloedd ledled Bro Morgannwg.

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Mewn partneriaeth â Jehu, rydym wedi gallu darparu amrywiaeth o gartrefi Cyngor wedi'u hadeiladu i’r ansawdd gorau.  
 
“Mae’r datblygiad hwn yn rhan o gynlluniau eang y Cyngor i gynyddu ei stoc dai a bodloni’r galw mawr lleol am lety o’r math hwn.
 
“Bydd yr amrywiaeth o wahanol eiddo sydd wedi cael eu codi yn rhoi lleoedd cysurus i deuluoedd, i barau ac i breswylwyr hŷn fyw ynddynt.
 
“Mae’r datblygiad hefyd yn ailddefnyddio safle segur i gyflawni swyddogaeth bwysig yn yr ardal.”