Cost of Living Support Icon

 

Mae amser o hyd i ymateb i Gynllun Her Newid Hinsawdd drafft y Cyngor

Diolchir i drigolion am rannu eu barn hyd yn hyn ar Gynllun Her Newid Hinsawdd Cyngor Bro Morgannwg ac fe'u hatgoffir bod amser o hyd i bawb ddweud eu dweud fel rhan o Brosiect Sero.

 

  • Dydd Gwener, 30 Mis Ebrill 2021

    Bro Morgannwg



Mae’r cynllun yn nodi sawl maes y gellir gwneud newidiadau ynddynt, gan gynnwys trafnidiaeth, bwyd, gwastraff, adeiladau, tir ac ynni. Mae hefyd yn cynnwys rhywfaint o'r gwaith sydd eisoes ar y gweill.


Mae llawer eisoes wedi ymateb drwy'r ymgynghoriad ar-lein, ac mae eraill yn rhannu eu barn ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol a grwpiau ffocws ar-lein y Cyngor. Bydd y ddwy sesiwn olaf yn cael eu cynnal ar 10 a 11 Mai a bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 11 Mai 2021.

Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg: "Mae mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd yn parhau i fod yn un o'n heriau mwyaf. Mae'r cynllun drafft yn manylu ar y camau y mae'r Cyngor yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael ag ef.


"Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i gyrraedd carbon sero net erbyn 2030. Rydym am arwain drwy esiampl, yn ogystal â helpu preswylwyr a phartneriaid i wneud newidiadau cadarnhaol. Rydym yn gofyn am eich barn fel y gall y Cyngor gefnogi'r newidiadau hyn orau, yn ogystal â phenderfynu a yw ein cynlluniau ein hunain yn ddigon uchelgeisiol.


"Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi rhannu eu barn hyd yma ac sydd wedi ymuno â ni yn ein grwpiau ffocws ar-lein a hoffem atgoffa pawb bod amser i ymateb o hyd."


Gall trigolion a phartneriaid ddod o hyd i fwy o fanylion am Brosiect Sero a'r cynllun drafft ar-lein. Gellir rhoi adborth drwy'r arolwg ar-lein neu drwy e-bostio projectzero@valeofglamorgan.gov.uk