Cost of Living Support Icon

 

Trigolion yn rhuthro i rannu eu barn ar ddyfodol Pafiliwn Pier Penarth

Mae llwyth o ymatebion i ymgynghoriad Cyngor Bro Morgannwg ar ddyfodol Pafiliwn Pier Penarth wedi’n cyrraedd – ac mae wythnos arall o hyd i drigolion rannu eu barn.

 

  • Dydd Mercher, 07 Mis Ebrill 2021

    Bro Morgannwg

    Penarth



Ar ôl cymryd dros y gwaith o weithredu'r adeilad Fictoraidd ddiwedd mis Chwefror, dechreuodd y Cyngor raglen gynhwysfawr o atgyweirio ac adnewyddu.


Mae'r Big Fresh Café hefyd wedi agor, sy’n gwerthu amrywiaeth o fwyd a diod gan gyflenwyr lleol, ac mae’r elw'n mynd tuag at ariannu prydau ysgol iach i ddisgyblion y Fro.


Nawr mae'r Cyngor yn galw ar bobl i ddweud eu dweud ar sut arall y gall y pafiliwn gyflawni ei rôl fel ased cymunedol.


Mae awgrymiadau'n cynnwys ei ddefnyddio ar gyfer mannau cyfarfod, sgyrsiau a dosbarthiadau, clybiau cyn ac ar ôl ysgol, fel lleoliad cerddoriaeth fyw, gofod ar gyfer arddangosfeydd, canolfan ar gyfer grwpiau cyngor a chymorth a llawer mwy.


pavilion1

Hyd yn hyn, mae dros 800 o bobl wedi cwblhau'r ymgynghoriad ar-lein ar y pwnc hwn ac mae gan unrhyw un arall sy'n dymuno gwneud hynny tan ddydd Mercher, 14 Ebrill.


Gall preswylwyr hefyd gymryd rhan drwy ddefnyddio'r blychau 'pleidleisio' y tu mewn i ardal y Big Fresh Café.


Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr, Cyngor Bro Morgannwg, "Ar ôl cymryd awenau pafiliwn Pier Penarth yn ddiweddar, aethom ati'n gyflym i asesu cyflwr yr adeilad, trefnu gwaith atgyweirio a threfnu ei lanhau'n drylwyr. Mae caffi sy’n cael ei weithredu gan gwmni arlwyo Big Fresh y Cyngor hefyd wedi agor.

 

 

"Mae hwn yn gyfle cyffrous i ailsefydlu'r pafiliwn fel canolbwynt ym Mhenarth ac yn ofod y gall y gymuned gyfan ei fwynhau.


"Mae gennym eisoes nifer o syniadau cyffrous ar gyfer sut gallwn ni gyflawni hynny ond byddem hefyd wrth ein boddau’n clywed awgrymiadau gan breswylwyr wrth i ni ddechrau ar gyfnod newydd i’r adeilad hanesyddol hwn."

 

Dweud eich dweud