Cost of Living Support Icon

 

Ailagor oriel Celf Ganolog gydag arddangosfa Cymdeithas Celfyddydau Menywod Cymru

Ailagorodd Oriel Celf Ganolog Cyngor Bro Morgannwg ar 26 Ebrill gydag arddangosfa o dros 90 o arddangosion gan Gymdeithas Celfyddydau Menywod Cymru (CCMC).

 

  • Dydd Iau, 29 Mis Ebrill 2021

    Bro Morgannwg



Art work Maureen Carlson ClementinesCrëwyd yr arddangosfa'n wreiddiol i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod 2020 ac mae'n dathlu gwaith artistiaid benywaidd sefydledig, y rhai sydd wrthi’n datblygu eu crefft ac artistiaid sy'n gweithio'n lleol ac ar draws y byd am y tro cyntaf.

 

Mae'r arddangosfa'n cyflwyno amrywiaeth eang o waith gan gynnwys cerfluniau, paentiadau, tecstilau, cerameg, ffotograffiaeth a phrintiau.


Nid wnaed unrhyw newidiadau i’r arddangosfa yn ystod pandemig COVID 19 ac mae bellach yn barod i'r cyhoedd ei gweld.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer: 


"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r celfyddydau wedi helpu llawer o bobl i ddelio ag effeithiau'r pandemig a’r cyfnod clo. Mae gallu mynegi ein hunain yn greadigol yn rhoi llais i’n teimladau ac yn ddihangfa o'r pethau sy'n digwydd o'n cwmpas ac mae wedi profi'n eithriadol o bwysig i les pobl.


"Mae'r celfyddydau hefyd wedi dod â llawer ohonom at ein gilydd, gan ein helpu i deimlo'n fwy cysylltiedig ar adeg pan ddywedwyd wrthym am gadw draw oddi wrth ein gilydd." 

 

Mae'r arddangosfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 1pm a 2pm-4pm, a rhwng 10am a 1pm a 2pm – 3:30pm ddydd Sadwrn.  Rhaid i ymwelwyr wneud trefniadau ymlaen llaw cyn dod i weld yr arddangosfa, cysylltwch â llyfrgell y Barri drwy ffonio 01446 422425.


A fyddech gystal â gwisgo masg wyneb bob amser a defnyddiwch y glanweithydd dwylo a ddarperir ar eich cyfer wrth gyrraedd. Dewch i mewn i'r oriel drwy fynedfa Llyfrgell y Barri ar Heol Tynewydd.