Cost of Living Support Icon

 

Ardal chwarae Belle Vue yn ailagor gyda golwg newydd

Yn dilyn ymgynghoriad 4 wythnos a buddsoddiad o £100,000 gan Gyngor Bro Morgannwg, gall plant ym Mhenarth bellach fwynhau ardal chwarae Belle Vue newydd a gwell.

  • Dydd Gwener, 17 Mis Rhagfyr 2021

    Bro Morgannwg



bellevue- play area

Mae'r parc wedi'i drawsnewid yn ofod hwyliog, modern gydag offer newydd, wedi'i gynllunio ar gyfer ystod o oedrannau, o blant bach i blant 12 oed.

 

Mae'r cyfarpar newydd yn cynnwys unedau dringo, siglenni, a phrif atyniad draig drawiadol, i gyd wedi'u hysbrydoli gan thema natur a dreigiau, a benderfynwyd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

 

Mae'r ardal chwarae hefyd yn addas i blant ag anghenion ychwanegol, gydag offer cynhwysol a nodweddion synhwyraidd megis siglen crud a phaneli synhwyraidd.

 

Mae ailddatblygiad Belle Vue yn rhan o raglen eang i wella ardaloedd chwarae ledled y Fro.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'n wych gweld y trawsnewidiad ym mharc Belle Vue a gweld yr ardal chwarae ar agor i'w defnyddio eto.

 

"Mae'r gwaith adfywio wedi rhoi golwg fodern i'r parc, ynghyd ag offer newydd i amrywiaeth o oedrannau eu mwynhau.

 

"Rwy'n gobeithio y bydd yr ardal chwarae newydd yn rhoi lle llawn hwyl i blant lleol fwynhau chwarae yn yr awyr agored."