Cost of Living Support Icon

 

Ailwampion siop heol Holltwn

  • Dydd Iau, 02 Mis Rhagfyr 2021

    Bro Morgannwg



IMG_20211116_144941 (002)

 

Mae trydedd siop wag ar Heol Hollton yn y Barri wedi cael ei thrawsnewid yn nwylo artistiaid lleol fel rhan o brosiect a drefnwyd gan Gyngor Bro Morgannwg.


Bu pump o artistiaid ifanc yn gweithio ar y prosiect ochr yn ochr ag artistiaid graffiti proffesiynol i drawsnewid blaen y siop a chymryd rhan mewn gweithdai yn yr uned Hurts So Good yn Ystâd Ddiwydiannol Windmill Park.


Ariannwyd y prosiect gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ac fe'i cyflwynwyd mewn partneriaeth â'r Cyngor, gyda gwaith tebyg ar y gweill yn y dyfodol. 


Nod y rhaglen yw ailddatblygu ardaloedd drwy wella golwg eiddo a datblygu adeiladau a danddefnyddir neu sy’n wag.


Yn ogystal â gwaith celf y siop, mae gwelliannau diweddar i strydoedd siopa'r Barri yn cynnwys gosod potiau planhigionn a baneri newydd.


Mae raciau beicio ar thema'r Barri hefyd wedi'u gosod o amgylch Canol y Dref i wneud teithio llesol yn fwy hygyrch. 


Dywedodd y Cynghorydd Burnett:

"Mae'r gwaith artistig a wnaed ar Heol Holltwn yn rhan o raglen helaeth i wella canol trefi ledled Cymru ac mae'n enghraifft arall o'n hymrwymiad i greu profiad siopa dymunol yma yn y Fro.

"Y nod yw darparu amgylchedd mwy diogel a chroesawgar i ymwelwyr, siopwyr a gweithwyr yng nghanol ein trefi.  

"Rwy'n gobeithio y bydd y gwaith hwn, ynghyd â gwaith arall, yn helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i drigolion lleol yn ogystal â siopwyr."