Cost of Living Support Icon

 

Cyngor i fuddsoddi £4.5m yn y ddarpariaeth ar gyfer ei ddysgwyr mwyaf agored i niwed

Mae Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer adeilad newydd gwerth £4.5 miliwn a fydd yn darparu ar gyfer rhai o ddysgwyr mwyaf agored i niwed y sir.

 

  • Dydd Gwener, 19 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg



Mae disgwyl i’r Ganolfan Dysgu a Lles agor yn 2023 ar safle Court Road y Cyngor yn y Barri, a bydd yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i fyfyrwyr yn lle'r Uned Cyfeirio Disgyblion bresennol.
 
Bydd y ganolfan yn darparu ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd, tra bydd adnodd arall ar gyfer disgyblion cynradd, sydd eisoes wedi'i sefydlu yn Ysgol Gynradd Gladstone, yn cael ei wneud yn barhaol.
 
Bydd y ddau gyfleuster yn cael eu rheoli gan Ysgol y Deri, sef ysgol arbennig y Cyngor, ac yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar drawma o gefnogi myfyrwyr.
 
Yn y cyfamser, bydd disgyblion uwchradd yn parhau i gael cymorth o fewn y ddarpariaeth bresennol yn y Bont-faen ac Ymddiriedolaeth Fferm Amelia.

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio:  "Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a fydd yn helpu i gefnogi rhai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed mewn lleoliad gofalgar a deallgar.
 
"Mae'r dull sy'n seiliedig ar drawma yn cydnabod y gall ymddygiad disgybl fod yn symptom o brofiad negyddol cynharach. Y nod yw mynd i'r afael â ffynhonnell y profiad hwnnw i helpu'r unigolyn i oresgyn y materion sy'n effeithio arno.
 
"Fel ysgol arbennig y Sir a sefydliad blaenllaw yn ei maes, teimlwn fod Ysgol Y Deri mewn sefyllfa berffaith i reoli'r cyfleusterau addysgol modern hyn."