Cost of Living Support Icon

 

Llyfrgelloedd i gynnal Aida The Storytime Drag Queen i nodi Mis Hanes LHDT 

MAE Cyngor Bro Morgannwg yn dathlu amrywiaeth gyda digwyddiad arbennig a gynhelir gan ein Gwasanaeth Llyfrgelloedd i nodi Mis Hanes LHDT

 

  • Dydd Mawrth, 23 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg



Bydd y Frenhines Ddrag Aida H Dee yn darllen detholiad o'i straeon, gan gynnwys The Threeee Goats United, gyda'r perfformiad yn cael ei ffrydio dros dudalennau Facebook ein llyfrgelloedd. 

 

Wedi eu cyflwyno gan Aida’s Enterprise: Drag Queen Story Hour UK, mae'r straeon i gyd yn hyrwyddo cymeriadau LHDT a lleiafrifol, gan ymdrin â themâu cynwysoldeb a derbyn.


Aida yw ego arall Sab Samuel, a symudodd o Gaerfaddon i Cogan yn 2018, a dechrau ar yrfa fel artist drag ar ôl perfformio am y tro cyntaf yn fachgen ysgol 15 oed.

 

DQSH

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio:  "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddigwyddiad Dydd Gwener, a fydd yn cyflwyno neges gadarnhaol iawn am oddefgarwch ac yn dathlu ein gwahaniaethau. Y gwahaniaethau hyn sy'n gwneud ein cymunedau'n lleoedd mor gyfoethog a bywiog. 

 

"Does dim lle o gwbl yn y Fro i ragfarn na gwahaniaethu o unrhyw fath. Rydym yn cofleidio'r holl breswylwyr waeth beth fo'u hil, oedran, rhyw, crefydd, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol ac rwy'n gobeithio y gall y digwyddiad hwn helpu i hyrwyddo'r agwedd honno." 


Mae awydd gan Sab, sy'n awtistig, hoyw ac â ADHD, i roi sicrwydd i blant ei bod yn iawn bod yn wahanol. 


Dwedodd: "Pam ydw i'n darllen straeon?  Rwy’n darllen straeon i ysbrydoli pobl nid yn unig i dderbyn gwahaniaethau pobl eraill, ond i'w cofleidio drwy ddod yn fodel rôl LHDTQ+.


"Pan oeddwn i'n iau, roeddwn i'n casáu fy hun am fod yn fachgen merchetaidd. Ni chefais erioed unrhyw fodelau rôl LHDTQ+. yn yr ysgol oherwydd Adran 28. Cofiaf eistedd yn fy ngwersi Mathemateg gyda llun Alan Turing wedi'i osod ar y wal am 4 blynedd, ac ni ddwedwyd wrthyf erioed fod y dyn hwn, tad cyfrifiadura modern, arwr cenedlaethol a arbedodd filiynau ar filiynau o fywydau, yn ddyn hoyw.


"Roeddwn i'n cael cymaint o drafferth gyda phwy oeddwn i'r holl ffordd hyd at pan oedwn yn astudio Mathemateg yn y brifysgol, ac rwy'n dal i ddal gafael ar boen y cyfan hyd yn oed heddiw. Pe bawn wedi cael y model rôl hwnnw, yn ôl pan oeddwn yn blentyn, rhywun i edrych i fyny iddo, rhywun i'm hysbrydoli i garu fy hun, byddwn wedi tyfu i fyny nid yn unig yn berson hapusach ond yn berson gwell drwyddo draw.  Dyna mae Drag Queen Story Hour UK yn ei ymgorffori a pham rwy'n gwneud yr hyn rwy'n ei wneud."


Bob blwyddyn, mae Mis Hanes LHDT+ yn rhoi sylw dros fis i hanes pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsweddol, gan gynnwys hanes hawliau hoyw a hawliau sifil cysylltiedig.

  
Bydd Aida The Storytime Drag Queen yn cael ei gynnal am 2pm ddydd Gwener.