Cost of Living Support Icon

 

Tîm Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn cerdded Mur Mawr Tsieina

Trefnodd Tîm y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff her gerdded rithwir Mur Mawr Tsieina ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.

 

  • Dydd Llun, 22 Mis Chwefror 2021

    Bro Morgannwg



Mabwysiadodd 18 o gleientiaid atgyfeirio, sydd i gyd yn byw gyda chyflyrau meddygol gwahanol yr enw 'The Wall Nuts,' gan gerdded cyfanswm o 5,500 milltir rhyngddynt rhwng mis Hydref a mis Ionawr.

 

Yn ystod y 14 wythnos, cwblhawyd tua 400 milltir yr wythnos a chofrestrwyd ychydig dros 11 miliwn o gamau, sef 80,000 o gamau ar gyfartaledd, yr wythnos, fesul unigolyn.Roedd yr her yn helpu defnyddwyr i ddal ati yn ystod y pandemig, tra hefyd yn gwella lefelau ffitrwydd a lles meddyliol. 

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Roedd hon yn fenter wych ar ran y tîm, a oedd yn gwella lles corfforol a meddyliol ei ddefnyddwyr yn sylweddol. Roedd yr her yn llawn cyfeillgarwch, cystadleuaeth ac agosrwydd, er bod pawb filltiroedd ar wahân, tra hefyd yn rhoi ymdeimlad o bwrpas ac atebolrwydd.

 

"Mae’r tîm wedi ymrwymo i helpu pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd i gynnwys ymarfer corff yn eu bywydau bob dydd. Mae'r cynllun wedi'i ohirio ar hyn o bryd oherwydd Covid-19, fodd bynnag, mae'r tîm yn parhau i gefnogi'r timau drwy ddosbarthiadau a rhaglenni rhithwir. Maent yn gobeithio ailddechrau yn y dyfodol o dan ganllawiau Llywodraeth Cymru.