Cyngor Bro Morgannwg yn trefnu gweithgareddau i helpu lles trigolion
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau i helpu lles trigolion yn ystod y cyfnod cloi.
Mae gofalu am iechyd meddwl yn arbennig o bwysig nawr wrth i gyfyngiadau a roddwyd ar waith i reoli’r coronafeirws gael effaith arnom.
Mae cael ein cadw i ffwrdd o deulu a ffrindiau yn rhoi straen ar bob un ohonom, fel y mae'r amser cynyddol a dreulir dan do.
Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, mae'r Cyngor wedi trefnu nifer o weithgareddau i helpu pobl i ymdopi â'r amodau presennol.
Mae'r tîm Byw'n Iach yn trefnu ymgyrch ‘Dewch yn Iach yn y Mis Bach’.

Gan gymryd rhan ar eich pen eich hun neu gydag eraill, crëwyd traciwr i gofnodi cynnydd mewn nifer o wahanol weithgareddau, gyda medal a thystysgrif yn cael eu rhoi ar ddiwedd yr her.
Gall y rhai sydd â diddordeb gofrestru yn bit.ly/3p6hawq ac i gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch.
Mae trigolion cartref gofal Tŷ Dewi Sant yn bwriadu codi eu hysbryd drwy nodi pethau y maen nhw'n edrych ymlaen at eu gwneud pan fydd cyfyngiadau'n codi, gyda lluniau o bobl yn dal y negeseuon hyn i'w rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae dydd Iau yn ddiwrnod sgwrsio; achlysur i bobl drafod eu hiechyd meddwl drwy gysylltu â ffrindiau a theulu.
Mae ffyrdd arloesol o wneud hyn yn cynnwys cynnal bore coffi drwy alwad fideo, ymuno ag eraill ar-lein ar gyfer gweithgareddau crefft neu drefnu sesiwn bobi rhithwir.
Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Mae'r pandemig wedi cael effaith ddofn ar ein bywydau bob dydd, rydym i gyd bellach yn treulio mwy o amser gartref, yn methu cwrdd â theulu a ffrindiau.
"Gall hyn gael effaith enfawr ar iechyd meddwl felly mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ofalu am ein lles wrth i ni aros i fywyd ddod yn ôl i arfer.
"Wrth i ni ddechrau Wythnos Iechyd Meddwl Plant, rydym yn canolbwyntio’n benodol ar y problemau a wynebir gan bobl ifanc, sydd â’u cysylltiad â’u hysgol a’u ffrindiau wedi’i dorri.
"Mae'r Cyngor wedi cynnig nifer o ffyrdd i helpu pobl i ddelio â'r sefyllfa hon, o awgrymiadau am gymdeithasu ar-lein i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarfer corff.
"Gall y rhai hynny sydd angen cymorth ar frys hefyd gysylltu â thîm Arwyr Enfys y Cyngor drwy ffonio 01446 729592."