Cost of Living Support Icon

 

Llyfrgelloedd Cyngor Bro Morgannwg yn helpu trigolion i nodi Diwrnod Darllen Cenedlaethol

Hoffem atgoffa trigolion Bro Morgannwg bod llawer o wasanaethau llyfrgell yn dal i fod ar gael er bod yr adeiladau ar gau i'r cyhoedd.

 

  • Dydd Gwener, 22 Mis Ionawr 2021

    Bro Morgannwg



Bydd Diwrnod Darllen Cenedlaethol ddydd Sadwrn, ymgyrch ledled y DU i annog pobl ifanc i fwynhau llyfrau, ac mae llyfrgelloedd y Fro yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd diogel o ddathlu'r achlysur. 

 

Gellir benthyg teitlau'n ddi-gyswllt, tra bod llu o wasanaethau eraill ar gael hefyd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: "Mae'n syfrdanol beth mae ein llyfrgelloedd yn ei wneud ac mae hynny hyd yn oed yn fwy gwir yn ystod y pandemig. Rwy'n credu y byddai pobl yn rhyfeddu at y gwasanaethau sydd wedi'u datblygu. Mae gwasanaeth clicio a chasglu ar gael, dewisiadau llyfrau twba  lwcus a miloedd o e-lyfrau a chylchgronau.

 

"Dyna'r pethau y gallech eu disgwyl, ond mae yna hefyd gynllun benthyciadau llechen a chymorth gan staff i fynd ar-lein."Rwyf wedi bod yn olrhain hanes fy nheulu gan fod mynediad i wefan hel achau yn rhad ac am ddim drwy'r llyfrgell. Mae straeon i blant hefyd yn cael eu cyflwyno ar-lein drwy'r cyfryngau cymdeithasol."

Mae'r gwasanaethau a gynigir ar hyn o bryd gan lyfrgelloedd y Fro yn cynnwys:

 

  • Gwasanaeth clicio a chasglu y gellir ei gyrchu naill ai ar-lein neu dros y ffôn.
  • Detholiad 'twba lwcus' o lyfrau.
  • Miloedd o e-lyfrau a llyfrau sain am ddim i'w benthyg.
  • Cannoedd o gylchgronau digidol am ddim.
  • Cannoedd o gomics digidol am ddim i blant ac oedolion
  • Gweithgareddau rheolaidd ar-lein (Facebook) i blant, gan gynnwys darlleniadau stori, sesiynau cyd-ganu a chrefftau.
  • Cynllun Benthyciadau llechen
  • Mynediad am ddim i wefannau a ddefnyddir i olrhain siart achau o gartref.
  • Grŵp darllen ar-lein drwy lyfrgelloedd Cymru (Facebook)
  • Diweddariadau ar wasanaethau drwy fb.com/voglibraries neu @voglibraries ar Twitter.
  • Mae cofrestru ar-lein hefyd bellach ar gael i drigolion y Fro nad ydynt yn aelodau eto

Dylai'r rhai sydd wedi colli eu manylion aelodaeth gysylltu â'u llyfrgell leol yn hytrach nag ailgofrestru er mwyn osgoi creu cyfrifon dyblyg.

 

Caiff yr holl lyfrau a ddychwelir eu rhoi mewn cwarantîn am 72 awr ac yna eu diheintio cyn cael eu hailgyhoeddi.

 

"Dydw i ddim yn meddwl y gallwch orbwysleisio pwysigrwydd darllen, ond yn rhy aml o lawer mae'n cael ei bortreadu fel rhywbeth sy'n ddifrifol iawn ac yn fwrn," ychwanegodd y Cynghorydd Burnett.

 

"Ond mae darllen yn ffordd dda iawn o dreulio ychydig oriau’n  ymlacio a dianc rhag yr adegau eithaf erchyll rydym wedi'u profi dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

"Rwy'n caru'r cylchgronau ar-lein sydd ar gael. Ar gyfer y glasoed neu blant nad ydynt wir eisiau codi llyfr, gallai seibiant awr o edrych ar gomics a nofelau graffig fod yn eithaf deniadol, ac os bydd plentyn yn cael ei gyfareddu gan lyfrau, gall hynny bara am oes."