Cost of Living Support Icon

 

Prosiect Llanilltud Fawr ar y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol

Mae cynllun a lansiwyd ar y cyd gan Gyngor Bro Morgannwg a Heddlu De Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog gan y Swyddfa Gartref sy'n cydnabod ymdrechion i leihau troseddu.

 

  • Dydd Mawrth, 12 Mis Ionawr 2021

    Bro Morgannwg

    Llantwit Major



Sefydlwyd Prosiect Gwirfoddoli Gardd Llanilltud Fawr i amddiffyn tenantiaid a thrigolion oedrannus a bregus rhag masnachwyr twyllodrus, a oedd wedi bod yn codi gormod am waith garddio a oedd yn aml yn anghyflawn neu o safon wael.


Mae'r fenter yn darparu gwaith garddio cynnal a chadw isel ar gyfer tenantiaid a phreswylwyr cymwys sydd angen help gyda thasgau fel torri lawntiau, tocio gwrychoedd a thynnu gwastraff gwyrdd.


Fe'i sefydlwyd yn 2019 gan Dîm Plismona Bro Morgannwg mewn partneriaeth â Thîm Buddsoddi a Chynnwys Cymunedol Tai Bro Morgannwg.

 

garden1

Cafodd gwirfoddolwyr eu hyfforddi a'u recriwtio i wneud y gwaith gan Wirfoddolwyr Ieuenctid Heddlu De Cymru, Plant Llanilltud, tenantiaid cyngor lleol, ysgolion ac asiantaethau partner.


Gyda'i gilydd fe wnaethant leihau nifer y digwyddiadau masnachwyr twyllodrus 80 y cant yn 2019, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. 


Mae ei lwyddiant bellach wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol gan y Llywodraeth drwy fod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Tilley 2021 yn y categori Cymdogaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Rwyf wrth fy modd bod y prosiect hynod fuddiol hwn wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr mor fawreddog.


"Mae Prosiect Gwirfoddoli Gardd Llanilltud Fawr yn enghraifft wych o sut y gall gweithio mewn partneriaeth rhwng asiantaethau wneud gwahaniaeth gwirioneddol o fewn y gymuned.


"Mae wedi cael effaith sylweddol ar wella gweithgareddau masnachwyr twyllodrus, gan helpu preswylwyr a thenantiaid i deimlo'n fwy diogel."

garden2Nod Gwobrau Tilley yw dathlu a chydnabod prosiectau'r Heddlu a phartneriaid sydd wedi llwyddo i ddatrys materion cymunedol.


Maent wedi'u rhannu'n bum categori: Cymdogaethau, Heddlu Nawr a Swyddogion Myfyrwyr, Partneriaid, Ymchwiliadau, Cymorth Busnes a Gwirfoddolwyr.


Mae Prosiect Gwirfoddoli Gardd Llanilltud Fawr bellach wedi'i gyflwyno i'r panel beirniadu terfynol, a fydd yn cyhoeddi enillydd cyffredinol ar gyfer y categori Cymdogaethau yn ddiweddarach y mis hwn.


Gwahoddir enillwyr pob categori i gyflwyno eu prosiectau yn y Gynhadledd Datrys Problemau Genedlaethol ym mis Medi, lle bydd y panel beirniadu ac aelodau'r gynulleidfa yn pleidleisio dros enillydd cyffredinol.