Cost of Living Support Icon

 

Gwahodd pobl greadigol y Fro i gynrychioli'r sir yng nghomisiwn Ein Lle Creadigol

Mae Caerdydd Creadigol mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru yn gwahodd ymarferwyr creadigol o bob un o ardaloedd yr awdurdodau lleol sy'n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i wneud cais am y cyfle.

 

  • Dydd Llun, 25 Mis Ionawr 2021

    Bro Morgannwg



Nod y prosiect yw arddangos beth yw ystyr bod yn greadigol ym mhob rhanbarth ar ffurf map stori ddigidol. 

 

Bydd unigolyn o Fro Morgannwg, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen yn cael ei ddewis i greu darn o waith unigol sy'n cynrychioli bod yn greadigol yn ei ardal.

 

Croesewir ceisiadau gan amrywiaeth o ymarferwyr creadigol sy'n gweithio mewn gwahanol ddisgyblaethau, ieithoedd a chyfryngau. 

 

Ddylai darnau ddim bod yn fwy na phum munud o hyd ond gallant fod mor fyr ag y dymunir. Rhaid i'r gwaith fod yn addas i'w arddangos yn rhan o fap stori ddigidol a'i nod yw adlewyrchu hunaniaeth pob lle.

 

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant:"Mae hwn yn gyfle gwych i bob math o ymarferwyr creadigol ym Mro Morgannwg. Rydym yn ffodus bod gennym gymuned greadigol amrywiol a gweithgar sydd â digonedd o straeon i'w hadrodd.

 

"Mae hefyd yn ymwneud â gwneud cysylltiadau rhwng pobl greadigol mewn gwahanol ranbarthau, gan y bydd pwy bynnag a ddewisir yn cymryd rhan mewn syniadau grŵp a sesiynau trafod ar-lein.

 

"Er y bydd hyn yn cael ei rannu ar-lein i ddechrau, gobeithir y gallai'r gwaith ymddangos mewn arddangosfa fyw yn y rhanbarth yn y dyfodol pan fydd cyfyngiadau Covid yn caniatáu." 

 

Mae'r prosiect hwn yn agored i ymarferwyr creadigol hunangyflogedig yn unig. Rhoddir cyflog o £1,000 fesul ymarferydd, i gynnwys ffi a threuliau.

 

Y dyddiad cau i wneud cais yw 08 Chwefror 2021.  Mae cyfarwyddiadau ynghylch sut i wneud cais yn:

 

Gwneud cais