Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn trefnu bod Y Cymin ar gael ar gyfer prydles hirdymor

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi dechrau'r broses farchnata ar gyfer y Cymin ym Mhenarth, sydd bellach yn cael ei hysbysebu fel cyfle prydles hirdymor.

 

  • Dydd Iau, 21 Mis Ionawr 2021

    Bro Morgannwg

    Penarth



Gwahoddir partïon â diddordeb i nodi eu cynigion ar gyfer defnyddio'r adeilad poblogaidd hwn yn y dyfodol a rhai o'r tiroedd drwy gais tendro ffurfiol.  Mae pecynnau tendro ar gael gan y Cyngor ar gais.


Roedd y tŷ a’i erddi, sydd mewn lleoliad gwych yn edrych dros Bier eiconig Penarth a Môr Hafren, wedi'u gosod i Gyngor Tref Penarth yn flaenorol cyn dychwelyd i reolaeth Cyngor Bro Morgannwg ym mis Ebrill 2020. 

 

kymin1

Roedd y tŷ a’i erddi, sydd mewn lleoliad gwych yn edrych dros Bier eiconig Penarth a Môr Hafren, wedi'u gosod i Gyngor Tref Penarth yn flaenorol cyn dychwelyd i reolaeth Cyngor Bro Morgannwg ym mis Ebrill 2020. 


Yn y gorffennol, defnyddiwyd yr Eiddo fel swyddfeydd, lleoliad ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill. Mae'r Cyngor yn chwilio am gynigion uchelgeisiol a chyffrous sy'n adlewyrchu pwysigrwydd hanesyddol lleol yr adeilad yn llawn ac yn gadael i'r Cyngor barhau i ddefnyddio rhan o'r gerddi at ddefnydd y cyhoedd.


Ar ôl cwblhau’r broses farchnata, bydd y Cyngor yn nodi cynigydd a ffefrir a bydd unrhyw ddefnyddiau newydd a gynigir yn ddarostyngedig i’r prosesau ymgynghori a chynllunio arferol. 

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae’r Cymin yn un o adeiladau mwyaf adnabyddus Penarth sydd wedi’i lleoli mewn man anhygoel. Mae sicrhau ei fod ar gael i'w brydlesu yn gyfle gwych a chyffrous i adfywio'r lleoliad er budd y gymuned leol ac ehangach.  


"Dyma gyfle i ysgrifennu'r bennod nesaf yn hanes cyfareddol y Cymin. 


"Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd ein cynlluniau'n parhau i gynnig mynediad i'r cyhoedd i lawer o'r tiroedd gan fy mod yn gwybod bod hwn yn amwynder lleol gwerthfawr i’r ardal."