Cost of Living Support Icon

 

Oriel Gelf Ganolog yn agor ar gyfer arddangosfa fyw

Bellach gall ymwelwyr ymweld ag oriel enwog Cyngor Bro Morgannwg i weld arddangosfa Celf yn y Cyfnod Cloi.

 

  • Dydd Gwener, 02 Mis Gorffenaf 2021

    Bro Morgannwg



Tan yn ddiweddar, cynhaliwyd yr arddangosfa ar-lein. Mae bellach yn arddangos dros 80 o ddarnau unigol o waith gan drigolion y Fro, yn ogystal ag artistiaid ymhellach i ffwrdd.


Crëwyd y gwaith a arddangosir yn ystod cyfnod cloi COVID-19 ac maent yn gymysgedd o waith o baentiadau, printiau, cerfluniau, tecstilau, ffotograffiaeth a cherddoriaeth. Mae'r gwaith yn cipio profiadau, heriau ac atgofion unigolion o’r flwyddyn diwethaf mewn ffordd greadigol.


Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant, y Cynghorydd Kathryn McCaffer, "Mae'r celfyddydau wedi chwarae rhan enfawr wrth helpu pobl i ymdopi ag effeithiau'r pandemig. Mae llawer wedi teimlo'n unig, yn gyfyngedig ac yn methu cyfathrebu ag aelodau o'r teulu, heb sôn am â’r gymuned ehangach.


“Mae cyfleoedd wedi’u ffrydio yn y celfyddydau wedi bod yn achubiad i lawer gan gynnwys ein harddangosfa gelf ar-lein. Rydym wrth ein bodd bod yr Oriel Gelf Ganolog bellach wedi ailagor i'r cyhoedd, ac yn gallu arddangos llawer o'r gwaith o'r arddangosfa rithwir wreiddiol."


Mae Celf yn y Cyfnod Cloi ar agor tan ddydd Sadwrn 4 Medi 2021. I archebu lle i ymwelwyr, cysylltwch â Llyfrgell Y Barri ar 01446 422452 neu i gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen  www.valeofglamorgan.gov.uk/ArtCentral neu Tudalen Facebook yr Oriel Gelf Ganolog am ddiweddariadau.