Cost of Living Support Icon

 

Cychod i’w symud o Harbwr y Barri

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi trefnu i symud dau gwch o Harbwr y Barri.

 

  • Dydd Mawrth, 20 Mis Gorffenaf 2021

    Bro Morgannwg

    Barri



Mae Morning Dawn ac Alisa wedi’u gadael yn yr harbwr ers peth amser ac mae’r ddau mewn cyflwr gwael.


Mae’r Cyngor wedi ceisio ar sawl achlysur i annog y perchnogion i ofalu am eu cychod ond heb gael ymateb.  


Caiff un o’r cychod ei dorri mewn darnau yn yr harbwr a’i waredu gan gwmni arbenigol yr wythnos nesaf.

 

boatsBwriedir halio’r llall i harbwr arall yn ystod y llanw uchel ar ddiwedd mis Awst, a chaiff naill ai ei werthu neu ei ddatgymalu yno.


Os na fydd hyn yn bosib yna caiff y cwch hwn ei dorri i ddarnau hefyd yn yr harbwr gan waredu’i holl elfennau.    
Mae’r Cyngor hefyd wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y perchnogion yn ymwneud â thorri’r gyfraith forol ac mae’r achos gerbron y Llys.

Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: “Rwy’n ymwybodol o’r teimladau y mae’r cychod hynny yn eu hachosi yn y gymuned. Rwy’n sicr y bydd y cyhoedd yn croesawu’r camau hyn ac rwy’n falch y bu’n bosib i mi gymryd camau i’w symud o’r harbwr.


“Mae’r Cyngor wedi bod yn ymdrin â’r mater hwn ers peth amser ac mae wedi cychwyn achos cyfreithiol yn erbyn y perchnogion am nifer o droseddau. Byddwn hefyd yn ceisio adennill y costau sy’n berthnasol i ddatrys y mater hwn ganddyn nhw.”