Cost of Living Support Icon

 

Y Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Her Newid Hinsawdd

Mae Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cymeradwyo cynigion i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd ganddo yn 2019.

 

  • Dydd Mawrth, 13 Mis Gorffenaf 2021

    Bro Morgannwg



Ddwy flynedd yn ôl, ymunodd y Cyngor â Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill ledled y DU o ran cyhoeddi ei ymrwymiad i fynd i'r afael â newid hinsawdd.  


Ers hynny, mae gwelliannau wedi'u gwneud i drefniadau ailgylchu, mae adeiladau'r Cyngor yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon ac mae gwaith wedi'i wneud i annog teithio llesol. 


Yn ddiweddar, cymeradwywyd y Cynllun Her Newid  Hinsawdd, sy'n nodi ymateb y sefydliad i nifer o faterion amgylcheddol, a bydd nawr yn cael ei ystyried mewn cyfarfod llawn o'r Cyngor yn ddiweddarach y mis hwn.


Mae’r cynllun wedi cael ei ddiweddaru yn dilyn ymgynghoriad lle gwahoddwyd y cyhoedd a sefydliadau partner i rannu eu barn.


Mae'r cynllun yn disgrifio'r newidiadau cadarnhaol y gellir eu gwneud mewn meysydd fel trafnidiaeth, bwyd, gwastraff, adeiladau, tir ac ynni ac mae'n rhan o Brosiect Diwastraff, sef glasbrint y Cyngor i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.


Mae Covid-19 wedi arwain at gyflymiad mewn llawer o'r meysydd hyn, gyda mwy o weithio gartref, mwy o ddefnydd o dechnoleg i gefnogi cyfarfodydd ar-lein a llai o deithio sy'n gysylltiedig â gwaith.

 

Cllr MOORE2

Mae adeiladau ysgol newydd hefyd yn cael eu cynllunio â'r nod o leihau neu ddileu allyriadau carbon ac mae Ysgol Gynradd Llancarfan ar y trywydd iawn i fod yn ysgol ddi-garbon net gyntaf Cymru (ar waith).

 

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, "Ers datgan argyfwng hinsawdd, mae'r Cyngor wedi gwneud amrywiaeth o newidiadau i'r ffordd y mae'n gweithredu er mwyn dod yn wyrddach. 


Fodd bynnag, er mwyn bwrw ein targed uchelgeisiol o allyriadau sero-net erbyn 2030, mae angen i ni fynd gam ymhellach. 


"Mae'r Cynllun Her Newid Hinsawdd nid yn unig yn nodi llwybr yr Awdurdod tua’r dyfodol, ond mae hefyd yn cydnabod ein cyfrifoldeb i'r gymuned ehangach. Fel sefydliad, rhaid i ni arwain drwy esiampl, gan gynorthwyo ein partneriaid a'n trigolion i wneud newidiadau ystyrlon. 


"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar ein cynllun ac edrychaf ymlaen at barhau â'r ddeialog wrth i ni i gydweithio i roi camau ar waith i leihau ein heffaith negyddol ar yr amgylchedd."