Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor i ddechrau derbyn ceisiadau am drwyddedau ar gyfer parthau rheoli parcio newydds

Cyn bo hir, bydd pobl sy'n byw yn ardaloedd Penarth, y Barri, y Bont-faen ac Aberogwr yn gallu gwneud cais am drwyddedau parcio i breswylwyr am ddim wrth i Gyngor Bro Morgannwg baratoi i gyflwyno mesurau newydd i fynd i'r afael â’r broblem o barcio mewn mannau amhriodol.

 

  • Dydd Gwener, 02 Mis Gorffenaf 2021

    Bro Morgannwg



Mae'r Cyngor yn ysgrifennu at breswylwyr y strydoedd dan sylw yn eu cynghori y bydd rheolaethau parcio i breswylwyr yn cael eu cyflwyno cyn bo hir ac yn esbonio sut y gellir cael trwyddedau.


Maent ar gael yn rhad ac am ddim i breswylwyr a gellir gwneud cais amdanynt nawr drwy fynd i wefan y Cyngor neu ffonio 01446 700111.


Y nod yw mynd i'r afael â phroblemau sy’n cael eu hachosi gan barcio mewn mannau amhriodol wrth i bobl ymweld ag atyniadau cyfagos a rhai meysydd parcio oddi ar y stryd.


Gweithredir y mesurau hyn ar ôl i ymgynghoriad helaeth â'r rhai yr effeithiwyd arnynt ddangos cefnogaeth eang i'r symud.


Bydd marciau ffordd ac arwyddion sy'n gysylltiedig â'r ardaloedd trwyddedau preswylwyr yn cael eu gosod yn fuan yn y lleoliadau perthnasol a bydd yr ardaloedd yn dechrau cael eu gorfodi o ddydd Llun, 19 Gorffennaf.


Caiff taliadau parcio eu cyflwyno ym mharciau gwledig y Cyngor ar yr un diwrnod. Bydd creu parcio preswylwyr ar strydoedd ger Parc Gwledig Cosmeston yn helpu i atal ymwelwyr sy'n teithio mewn car rhag achosi tagfeydd a chreu rhwystrau yn y strydoedd cyfagos hyn.


Mae cynlluniau hefyd i gyflwyno taliadau mewn meysydd parcio oddi ar y stryd yn Wyndham Street, y Barri a Maes Parcio Neuadd y Dref yn y Bont-faen pan fydd Cymru'n symud yn llawn i Rybudd COVID Lefel Un. 


Er bod parcio preswyl eisoes ar gael yn Wyndham Street, bydd ei gyflwyno ar strydoedd o amgylch Maes Parcio Neuadd y Dref yn y Bont-faen dros yr wythnosau nesaf yn sicrhau bod yr ardaloedd hyn hefyd yn parhau i fod ar gael ar gyfer cerbydau preswylwyr.


Anogir preswylwyr i wneud cais am drwydded ar gyfer pob cerbyd sydd wedi'i gofrestru i gyfeiriad, gyda phob eiddo hefyd yn gymwys i gael un drwydded ymwelwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwy'n ymwybodol bod nifer o strydoedd o amgylch y Fro wedi bod yn dioddef dros nifer o flynyddoedd am fod nifer fawr o bobl yn parcio yno wrth ymweld ag atyniadau neu wrth fynd i’r gwaith. Mae hyn wedi ei gwneud yn anodd i unigolion gael mynediad i'w heiddo tra hefyd yn cael effaith negyddol ar lif traffig a diogelwch priffyrdd.  

 

"Gyda’r cam hwn rydym yn ceisio mynd i'r afael â'r problemau hyn mewn ardaloedd fel Ynys y Barri ac atal problemau tebyg rhag codi pan ddaw taliadau parcio ceir yn weithredol yn ein parciau gwledig, Wyndham Street, y Barri a Maes Parcio Neuadd y Dref yn y Bont-faen. Bydd yn ein galluogi i ddiogelu parcio i'r rhai sy'n byw gerllaw.


"Gofynnom i breswylwyr a oeddent o blaid cyflwyno'r mesurau hyn a'r ateb clir oedd 'Ydyn'.


"Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y rheolaethau hyn yn gwella'r sefyllfa o ran parcio i'r rheiny sy'n byw yn yr ardaloedd hyn wrth fynd i afael â phroblemau tagfeydd a diogelwch."

"Mae hwn yn bolisi newydd ac yn un y byddwn yn ei fonitro'n ofalus i benderfynu a oes angen newidiadau i'w wella. Bydd hefyd yn darparu gwybodaeth i ni os bydd galw am weithredu tebyg mewn ardaloedd eraill."


Mae'r Cyngor hefyd yn cyflwyno tocynnau tymor ar gyfer ymwelwyr rheolaidd â'n parciau gwledig a'n cyrchfannau arfordirol, y gellir gwneud cais amdanynt hefyd drwy'r wefan.


Pris y rhain yw £50 am chwe mis a £100 am 12 mis ar gyfer meysydd parcio y codir tâl arnynt mewn ardaloedd Arfordirol, megis Ynys y Barri ac Aberogwr.


Byddant yn costio £30 am chwe mis a £50 am 12 mis ym mharciau gwledig Cosmeston a Phorthceri. 


Gellir defnyddio'r tocynnau tymor ar gyfer ardaloedd arfordirol mewn unrhyw faes parcio arfordirol y codir tâl amdano yn y Fro a gellir defnyddio tocyn tymor y parc gwledig yn y naill barc gwledig neu'r llall.