Cost of Living Support Icon

 

Gwahodd preswylwyr i gwblhau arolwg lles 'Amser Siarad' 

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) y Fro yn gofyn i bobl gymryd rhan mewn arolwg a fydd yn helpu i lywio gwaith i wella lles cymunedau.

 

  • Dydd Iau, 15 Mis Gorffenaf 2021

    Bro Morgannwg



Wedi'u sefydlu ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru, mae BGCau yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr o sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector i wneud gwelliannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol yn eu rhanbarth.


Yn y Fro, mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg a phartneriaid eraill.


Rhaid i'r BGC gyhoeddi Asesiad Lles y flwyddyn nesaf ac felly mae amrywiaeth o weithgarwch ymgysylltu'n cael ei gynnal i lywio'r ddogfen honno.


Yn ei thro, defnyddir y ddogfen i ddrafftio Cynllun Lles ar gyfer y Fro, sy'n ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.


Gofynnir i breswylwyr gwblhau arolwg am wasanaethau yn yr ardal a bywyd yn gyffredinol.


Mae hwn yn gyfle i aelodau'r cyhoedd rannu eu barn gyda'r BGC ar amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â lles, tra bydd gwaith ymgynghori pellach yn digwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.


Bydd yr arolwg yn rhedeg tan ddydd Sul, 19 Medi.


Mae rhagor o wybodaeth am Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus y Fro ar gael ar y wefan a dylai'r rhai sydd â diddordeb mewn dysgu sut y gall eu cwmni helpu gyda'i waith e-bostio.