Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro i gefnogi Prosiect Bioamrywiaeth Gwenog Court  

Bydd timau Buddsoddi Cymunedol a Gwasanaethau Cymdogaeth Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio mewn partneriaeth â Phartneriaeth Natur Leol y Fro i gyflawni'r prosiect. 

 

  • Dydd Gwener, 23 Mis Gorffenaf 2021

    Bro Morgannwg



Mae hyn ar ôl i Bartneriaeth Natur Leol y Fro (PNL) lwyddo i ennill cyllid grant ar gyfer 2021/2022 gan Gronfa Gyfalaf Llywodraeth Cymru – 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur'.  


Nod y prosiect yw cynnig cyfleoedd gwerthfawr i'r gymuned leol fwynhau natur ac ymgysylltu â hi mewn lleoliad trefol, yn ogystal â chefnogi lles cymdeithasol, corfforol a meddyliol. 


Caiff prosiect bioamrywiaeth ei sefydlu ar dir Gwenog Court, datblygiad tai gwarchod yn y Barri sy'n cefnogi 87 o drigolion. 


Ar hyn o bryd, nid oes gan y tiroedd fawr ddim i'w gynnig i'r trigolion, y disgyblion na'r gymuned leol. Fodd bynnag, gan weithio drwy broses ddylunio sy’n codi o’r gymuned, y gobaith yw y bydd yr ardal hon yn esiampl flaenllaw o'r hyn y gellid ei gyflawni ar gyfer bioamrywiaeth a thrigolion sy'n byw yn y Fro. 


Ynghyd â'r Cyngor, bydd Ysgol Gynradd yr Holl Seintiau hefyd yn rhan o'r prosiect gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer gwaith rhwng cenedlaethau. Bydd y trigolion a'r disgyblion yn gweithio'n agos gyda’r penseiri tirlunio Soltys Brewster i wireddu gweledigaeth sy'n ystyriol o bobl a natur. 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Tai ac Adeiladau: "Mae'r Cyngor, ochr yn ochr â thrigolion Gwenog Court, yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae'r prosiect hwn yn datblygu.

 
"Ar ôl treulio cyfran fawr o'r flwyddyn ddiwethaf dan do, bydd hwn yn gyfle i fynd allan eto, yn ogystal â helpu i leihau allgáu cymdeithasol ac unigrwydd. Bydd gan y trigolion le newydd a chroesawgar i gyfarfod a mwynhau natur yn eu cymuned." 

Biodiversity Wales