Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cefnogi wythnos y beic

Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal dwy sesiwn galw heibio sy'n cynnig mân atgyweiriadau a gwiriadau diogelwch beics fel rhan o Wythnos y Beic.

 

  • Dydd Mercher, 02 Mis Mehefin 2021

    Bro Morgannwg




Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal dwy sesiwn galw heibio sy'n cynnig mân atgyweiriadau a gwiriadau diogelwch beics fel rhan o Wythnos y Beic.
 
Gall beicwyr ddod â'u beiciau i Barc Gwledig Cosmeston rhwng 10am ac 1pm ddydd Mercher neu i Ynys y Barri rhwng 2pm a 5pm i gael y gwasanaeth am ddim, a gynhelir gan DR Bike.
 
Mae hyn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i iechyd a lles trigolion a'i ymgyrch i annog ymddygiadau mwy ecogyfeillgar.
 
Y llynedd, cafodd Prosiect Sero ei lansio, sef addewid i ddileu allyriadau carbon y Cyngor yn llwyr erbyn 2030.
 
Mae amrywiaeth o lwybrau beicio ar gael drwy’r Fro, gan gynnwys rhwydweithiau o amgylch y Barri, y Bont-faen, Dinas Powys, Llanilltud Fawr, Penarth, y Rhws, Sain Tathan a Sili.

Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae Wythnos y Beic yn gyfle gwych i chwythu’r llwch oddi ar yr hen geffyl haearn a mynd ag ef allan am dro. Mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael i bobl eu mwynhau dros y saith niwrnod.
 
"Mae beicio yn llesol i’n hiechyd corfforol a meddyliol ac mae hefyd yn dda i'r blaned.
 
"Fel Cyngor, rydym yn ymrwymo i ostwng allyriadau carbon dros y blynyddoedd nesaf ac mae newid eich car am feic wrth fynd ar gyfer teithiau penodol yn ffordd syml o gyflawni hynny."

Mae astudiaethau’n awgrymu bod pobl sy’n beicio'n rheolaidd fel oedolyn yn mwynhau lefel o ffitrwydd sy'n cyfateb i rywun 10 mlynedd yn iau.
 
Mae Wythnos y Beic, a gyflwynir bob blwyddyn gan Cycling UK, yn annog chwarter miliwn o bobl i ymuno mewn digwyddiadau, i ailfeddwl am eu teithiau bob dydd a newid i feicio er mwyn mynd o gwmpas y lle.
 
Eleni mae amrywiaeth o ddigwyddiadau ar draws y saith niwrnod, gan gynnwys Taith Feicio Fwyaf y Byd a chyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd neu i roi cynnig ar her newydd.
 
Ddydd Sul, bydd Taith Feicio Fwyaf y Byd yn ceisio cael cymaint o bobl â phosibl ar eu beics ar yr un diwrnod.
 
Gall y daith fod o unrhyw hyd, yn unrhyw le ac ar unrhyw amser a gallwch ddefnyddio unrhyw fath o feic.
 
Y cyfan mae ei angen ei wneud yw cofnodi’r daith ar wefan Cycling UK www.cyclinguk.org