Cost of Living Support Icon

 

Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn egluro’r cynlluniau ar gyfer cam nesaf yr ymateb i’r pandemig

Mae gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Caerdydd a'r Fro wedi cyhoeddi ei gynlluniau ar gyfer y ffordd y bydd yn gweithio i fynd i'r afael â heriau tebygol y dyfodol.

 

  • Dydd Gwener, 11 Mis Mehefin 2021

    Bro Morgannwg



Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd yr arian ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru yn parhau tan fis Mawrth 2022, mae Cynllun Atal ac Ymateb Caerdydd a'r Fro yn egluro’r ffyrdd o weithio ar gyfer cam nesaf yr ymateb i’r pandemig.
 
Mae'r cynllun yn manylu ar sut y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg, gyda chymorth Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn parhau i weithio gyda'i gilydd i reoli'r risgiau mwyaf o heintiau Covid-19 yn y rhanbarth eto, megis amrywiolion sy'n peri pryder a theithio rhyngwladol. Mae'n adeiladu ar fodel gwasanaeth a redir yn lleol, sydd wedi bod yn gweithredu'n llwyddiannus ers mis Mehefin 2020, ac y dangoswyd ei fod yn effeithiol o ran lleihau lledaeniad Covid-19.
 
Mae hefyd yn nodi'r sectorau hynny y bydd tîm o swyddogion olrhain cysylltiadau yn gweithredu ynddynt. Mae'r rhain yn cynnwys ysgolion, lleoliadau gofal plant, colegau a phrifysgolion. Bydd yr un tîm hefyd yn cefnogi gwaith ymchwilio i glystyrau ac achosion o bryder.

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd: "Mae gwaith y gwasanaeth yn ei flwyddyn gyntaf wedi bod yn anhygoel. Yn ystod 2020 cynhaliwyd dros 200,000 o brofion coronafeirws yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
 
"Gwnaeth blaenoriaethu staff ysgolion a gofal iechyd ar adegau allweddol yn ystod y pandemig alluogi'r sectorau hanfodol hyn i barhau i weithio a sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael y gofal a'r cymorth oedd eu hangen arnynt. Hefyd gwnaeth defnyddio canolfannau profi cymunedol dros dro a chyfleusterau symudol helpu i reoli achosion ac i atal lledaeniad y feirws.
 
"Nawr rydym yn edrych tua'r dyfodol ac at ddarparu gwasanaeth sydd â’r nod o gadw nifer yr achosion mor isel â phosibl, wrth i’r cyfyngiadau cenedlaethol gael eu codi ac wrth i bobl ddychwelyd i wneud y pethau maen nhw'n eu mwynhau.
 
"Mae'r gwasanaeth bob amser wedi bod â chylch gwaith ehangach na dim ond olrhain cysylltiadau ac yn y misoedd diwethaf mae wedi helpu gyda’r broses bwysig o gyflwyno'r brechlyn. Mae rhai o'r ymgynghorwyr hynny a roddodd gyngor yn y gorffennol ar brofion a hunanynysu ac a helpodd i gael cymorth ychwanegol i'r rheiny a oedd fwyaf agored i niwed bellach hefyd yn darparu gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer y rhaglen frechu torfol. Mewn mannau eraill, mae gennym dimau sy'n gweithio i ymgysylltu â'r rheiny mewn cymunedau nad yw llawer o’r bobl yno’n manteisio ar y brechlyn."

Cynllun Atal ac Ymateb