Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn ceisio cael arian gan Lywodraeth y DU

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn paratoi cais o hyd at 20 miliwn i Gronfa Codir Gwastad Llywodraeth y DU mewn ymgais i sicrhau buddsoddiad mawr i'r Barri.

 

  • Dydd Mercher, 02 Mis Mehefin 2021

    Bro Morgannwg



Mae cynnig y Cyngor yn dal i gael ei gwblhau ond ei nod fydd cyflymu’r broses o adfywio Glannau'r Barri ymhellach.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, “Rydym yn gwneud popeth y gallwn i gael yr arian hwn gan wneud ein cais amdano mor gadarn a chymhellol â phosibl. Rwy’n obeithiol bod Llywodraeth y DU yn rhannu ein hyder yn nyfodol y Barri.
 
“Dros y 20 mlynedd diwethaf, mae siopau, bwytai a llawer o dai wedi’u datblygu yn ardal y Glannau. Fel Cyngor rydym bellach am fynd â'r ardal i'r lefel nesaf drwy ei chysylltu'n well â chymunedau'r Barri a datgloi potensial tir cyflogaeth a hamdden.
 
"Rwy'n credu bod gan y Barri achos grymus dros gael arian y gronfa hon a byddwn yn dangos hynny’n glir. Mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda'n AS lleol sy'n cefnogi ein penderfyniad i gyflwyno cais ar gyfer Glannau'r Barri a'r ardaloedd cyfagos. Rydym am sicrhau bod cymunedau'r Barri wedi'u cysylltu'n well â'r glannau a bod tir cyflogaeth yn cael ei ddatgloi i'w ddefnyddio yn y dyfodol. Yn bwysicaf oll, bydd hwn yn gynnig ar gyfer buddsoddi mewn swyddi."

Diben Cronfa Codi’r Gwastad yw sicrhau bod cyfleoedd yn fwy cyson ledled Prydain drwy gynnig cymorth i ardaloedd sy’n ddifreintiedig ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth y DU yn chwilio am geisiadau graddfa fawr unigol gan Awdurdodau Lleol ar fyr rybudd i gefnogi ei hagenda Codi’r Gwastad.
 
Gellir defnyddio arian o’r gronfa i ariannu cynlluniau lleol, gan gynnwys adfywio canol trefi a'r strydoedd mawr, gwella systemau trafnidiaeth neu ar gyfer prosiectau diwylliant a threftadaeth. Mae'r cynllun yn gyfle mawr i fuddsoddi ymhellach yn yr ardal.
 
Rhagwelir y bydd cais y Cyngor yn cael ei gyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf a disgwylir penderfyniad yn ei gylch yn yr hydref.