Cost of Living Support Icon

 

Ailwampio Ystad Dai Yn Y Barri

Mae bwriad i ailwampio ystâd dai yn y Barri ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg gyhoeddi cynlluniau ar gyfer ystod o welliannau. 

 

  • Dydd Mercher, 24 Mis Tachwedd 2021

    Bro Morgannwg



buttrills1Mae bwriad i ailwampio ystâd dai yn y Barri ar ôl i Gyngor Bro Morgannwg gyhoeddi cynlluniau ar gyfer ystod o welliannau.

 

Bydd gwaith ar erddi tai, byngalos a fflatiau ac ardaloedd cymunedol cael ei wneud yn ystâd Buttrills yn y Barri.


Bydd mannau awyr agored newydd ar gyfer sychu dillad a storio eitemau hefyd yn cael eu creu a bydd goleuadau stryd LED mwy ynni-effeithlon yn cael eu gosod yn unol ag ymrwymiad Prosiect Sero’r Cyngor i fod yn garbon niwtral.

 

Mae trigolion wedi bod yn ymwneud yn fawr â'r cynlluniau, sydd hefyd yn cynnwys plannu coed a gosod blychau adar i ddiogelu bywyd gwyllt lleol.

 

Mae'r broses o benodi contractwr i wneud y gwaith eisoes ar y gweill a'r gobaith yw y bydd y prosiect yn dechrau yn y dyfodol agos. 


Mae'n dilyn y gwaith helaeth a wnaed i uwchraddio stoc tai y cyngor yn unol â Safonau Ansawdd Tai Cymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Mae'r gwaith y bwriedir ei wneud yn Ystâd Buttrills yn rhan o raglen helaeth ar gyfer cynnal a gwella tai Cyngor.

 

“Mae datblygiadau newydd wedi’u cyflawni yn Clos Holm View a Llys Llechwedd Jenner yn y Barri, tra bod gwaith arall ar y gweill yn Hayes Road a Hayeswood Road yn y Barri ynghyd â fflatiau i bobl hŷn ym Mhenarth.


"Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r trigolion sy'n byw yno, gan greu mannau awyr agored dymunol ac ymarferol iddynt eu mwynhau.  Dylai hefyd roi hwb i fywyd gwyllt lleol a gwneud yr ardal yn fwy ecogyfeillgar."