Cost of Living Support Icon

 

Gemau ped-droed i ailddechrau yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot ar ol buddsoddiad sylweddol gan y cyngor.

  • Dydd Llun, 29 Mis Tachwedd 2021

    Bro Morgannwg


 

 

colcotsportscentre

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gwario £30,000 fel y gellir cynnal gemau pêl-droed yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot y gaeaf hwn.


Mae’r ystafelloedd newid yn y lleoliad wedi bod allan o ddefnydd ar ôl i broblem gyda'r boeler effeithio ar y cawodydd.


Ond mae'r Cyngor bellach wedi trefnu i osod boeler newydd a gwneud trefniant gwaith bryd 24-awr ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.


O ganlyniad, gellir cynnal gemau pêl-droed a digwyddiadau eraill yn y lleoliad unwaith eto.

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant:

 

"Rwy'n falch iawn y gellir defnyddio'r cyfleusterau yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot eto a hoffwn ddiolch i Gynghrair Bêl-droed Bro Morgannwg am eu dealltwriaeth gyda’r mater hwn.


"Ar ôl i'r boeler gael ei gondemnio oherwydd pryderon diogelwch, gweithiodd ein tîm cynnal a chadw gydag arbenigwyr allanol i ddatrys y mater, a gafodd ei gymhlethu gan y ffaith nad oes cyflenwad nwy ar y safle.


"Mae'r Cyngor wedi gwario swm sylweddol o arian i ddatrys y broblem a, diolch byth, gall gemau ailddechrau nawr yng Nghanolfan Chwaraeon Colcot."


Dywedodd Mark Harvey, Cadeirydd Cynghrair Bêl-droed Bro Morgannwg:

 

"Hoffwn ddiolch i Dave Knevett a staff eraill Cyngor Bro Morgannwg a weithiodd gyda fi i roi'r ganolfan chwaraeon ar waith unwaith eto.

 

Mae gan y gynghrair syniadau eraill ar sut y gellir gwella'r ganolfan chwaraeon ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Cyngor i wireddu'r cynlluniau hynny."