Cost of Living Support Icon

 

Cyngor Bro Morgannwg yn datgelu ei gynigion cyllideb cychwynnol

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi amlinellu’r sefyllfa ariannol lom y mae'n ei hwynebu yn dilyn degawd o lymder ac effaith sylweddol Covid-19.

 

  • Dydd Iau, 18 Mis Tachwedd 2021

    Bro Morgannwg



Mae costau gwasanaeth uwch yn achosi llawer mwy o bwysau nag mewn blynyddoedd blaenorol.


Amcangyfrifir bod y pwysau cost ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod ychydig yn llai na £27 miliwn ac mae hynny'n cael effaith fawr ar y ffordd y cynllunnir y gyllideb.


Er nad yw'r setliad ariannol a roddir i'r Cyngor gan Lywodraeth Cymru yn hysbys eto, bydd hyd yn oed y canlyniad mwyaf optimistig yn debygol o adael diffyg cyllidebol sylweddol.


Mae hynny'n golygu bod yr Awdurdod yn ystyried rhai penderfyniadau anodd wrth iddo gynllunio'r gyllideb ar gyfer 2022/23.

Cllr MOORE2Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg:  "Dyma'r sefyllfa ariannol anoddaf rydym erioed wedi’i phrofi.


"Rwyf am fod yn gwbl glir am hynny ac am y ffaith ein bod yn wynebu dewisiadau annymunol wrth i ni geisio cynnal y gwasanaethau hanfodol y mae pobl yn dibynnu arnynt.


"Er bod y swm a gafwyd gan Lywodraeth Cymru y llynedd yn uwch na'r disgwyl, ni helpodd i fynd i’r afael â’r bwlch a adawyd gan ddeng mlynedd o doriadau cyson i Awdurdodau Lleol.


"Mae hynny, ynghyd â baich ariannol y coronafeirws, wedi gadael y Cyngor mewn sefyllfa heriol dros ben.


"Rwyf am fod yn agored ac yn onest gyda thrigolion am realiti'r sefyllfa a phwysleisio y bydd eu barn yn chwarae rhan hanfodol wrth benderfynu’r ffordd orau ymlaen."


Mae adroddiad drafft cychwynnol i'w ystyried gan Gabinet y Cyngor ddydd Llun yn nodi effaith y pandemig o ran incwm a gollwyd a gwariant ychwanegol.


Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian yn y gorffennol i ymdopi â'r costau hynny, ond ni ddisgwylir i hynny barhau ar ôl y flwyddyn ariannol hon.


Disgwylir i nifer o ffactorau eraill hefyd effeithio'n negyddol ar sefyllfa ariannol y Cyngor, gan gynnwys pwysau chwyddiant fel prisiau ynni cynyddol a newidiadau i daliadau Yswiriant Gwladol.


Mae gan y Fro hefyd boblogaeth sy'n heneiddio a nifer cynyddol o blant ag Anghenion Dysgu Cymhleth ac Ychwanegol, grwpiau y mae angen mwy o wasanaethau arnynt.


Mae'r adroddiad yn cynnwys amcanestyniadau a wnaed ar gyfer amrywiaeth o bosibiliadau yn setliad Llywodraeth Cymru, o ostyngiad 1 y cant i gynnydd 4.42 y cant, a fyddai'r un cynnydd â'r llynedd.


Ym mhob un o'r senarios hynny, mae effaith y cynnydd o 3.2 a 3.9 y cant a ragwelir yn y Dreth Gyngor wedi'i hystyried.  Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith y byddai angen cynnydd o 7.05 y cant i wneud Treth Gyngor y Fro yn gyson â Threth Gyngor gyfartalog Cymru.


Hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn, byddai diffyg cyllid o hyd a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor leihau gwariant mewn rhai meysydd. 


Bydd ymarfer ymgynghori ar y gyllideb a chyfradd y Dreth Gyngor yn dechrau cyn bo hir i gael gwybod am y gwasanaethau a ffefrir gan drigolion.


Caiff cynigion y gyllideb eu trafod gan y Cabinet a phwyllgorau craffu cyn eu cwblhau mewn cyfarfod Cyngor llawn ym mis Mawrth.