Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod 

Bydd nifer o adeiladau'n cael eu goleuo yn binc a glas o 9-15 Hydref wrth i Gyngor Bro Morgannwg nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod.

 

  • Dydd Gwener, 08 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg



Bydd llochesi gorllewin a dwyrain Ynys y Barri yn arddangos y lliwiau, ynghyd â Thwnnel Hood Road yn y dref.

 

Mae wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn digwydd bob blwyddyn ac mae'n gyfle i rieni sy’n galaru, eu teulu a'u ffrindiau i uno ag eraill a choffáu bywydau eu babanod.

 

Mae hefyd yn cynnig cyfle i godi arian at ymchwil hanfodol i gamesgor, marw-enedigaeth a genedigaeth gynamserol. 

 

Mae SANDS, yr Elusen Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newydd-anedig, wedi ffurfio'r Gynghrair Ymwybyddiaeth Colli Babanod, sy'n cynnwys mwy na 100 o elusennau.

 

Maent yn gweithio gyda'i gilydd i dorri'r tabŵ a sbarduno gwelliannau mewn polisi, gofal profedigaeth a chefnogaeth i unrhyw un sy’n dioddef marwolaeth baban.

 

Mae cyfres o drafodaethau byw yn digwydd drwy gydol yr wythnos sydd ar gael drwy wefan SANDS.

 

Ac ar ddydd Gwener, 15 Hydref anogir y rhai fyddai’n dymuno cymryd rhan i ymuno â 'Thon o Olau' drwy gynnau cannwyll am 7pm a'i gadael yn llosgi am awr i gofio pob baban sydd wedi marw. 

"Rydym yn gobeithio y bydd gweld y lleoliadau hyn yn y Fro yn cael eu goleuo yn binc a glas yn sbarduno mwy o sgyrsiau am golli babanod," meddai'r Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

"Amcangyfrifir bod u o bob pedwar beichiogrwydd yn y DU yn dod i ben gyda cholled yn ystod beichiogrwydd neu’r geni. Mae hyn yn drasiedi sy'n effeithio ar filoedd o bobl bob blwyddyn ond nad yw'n hysbys iawn.  Mae cefnogi achosion fel Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod yn hanfodol bwysig er mwyn rhoi cyfle i rieni a theuluoedd mewn profedigaeth siarad am eu profiad a chodi arian at yr elusennau sydd wedi eu cefnogi nhw."