Cost of Living Support Icon

 

Cael pâr yn euog o dorri cyfraith forwrol yn dilyn erlyniad gan Gyngor Bro Morgannwg

Cafwyd dau berson a adawodd i gychod ddirywio yn Harbwr y Barri yn euog o 12 cyhuddiad yn ymwneud â thorri cyfraith forwrol yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun 18 Hydref.

 

  • Dydd Iau, 21 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg



Roedd Barrie Jon Dawe a Shane Statham yn hwylio cychod o'r enw y Morning Dawn ac Alisa i'r harbwr heb ganiatâd y Cyngor a'u gadael yno lle'r oeddent yn syrthio i gyflwr o ddadfeilio.


Ni chafodd y Cyngor unrhyw ymateb i gyfathrebiadau yn gofyn iddynt gael gwared ar y cychod felly daeth yn angenrheidiol mynd ar drywydd achosion llys a threfnu eu symud.  

 

boats01

Yn y gwrandawiad, cafodd Mr Dawe orchymyn i dalu £600 mewn dirwyon, £50 am bob trosedd, a £620 mewn costau cyfreithiol.

  
Mae'n rhaid i Mr Statham dalu'r un swm tuag at gostau cyfreithiol ond cafodd ei ryddhau'n amodol ynglŷn â'r troseddau gan nad oedd yn cael ei ystyried yn brif brotagonist. 


Mae'r Cyngor yn ystyried a ddylid mynd ar drywydd ffyrdd eraill o adennill y costau sy'n weddill. 

Dywedodd y Cynghorydd Peter King, aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rwy'n ymwybodol o gryfder y teimlad o fewn y gymuned leol ynglŷn â'r cychod hyn ac rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i gymryd camau pendant yn yr achos hwn.


"Gadawyd i'r llongau hyn ddirywio yn Harbwr y Barri lle daethant yn hyllbethau ac roeddent yn peri risg amgylcheddol a diogelwch. Bu'n rhaid i'r Cyngor ddefnyddio arian cyhoeddus i'w symud ar ôl i'r perchnogion wrthod delio â'r mater.


"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cyfleu neges na fydd y Cyngor yn goddef ymddygiad o'r fath.  Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y rhai sy'n gyfrifol yn atebol am eu gweithredoedd ac i adennill unrhyw gostau cysylltiedig."