Cost of Living Support Icon

 

Disgybl Ysgol Gynradd Saint-y-brid yn ennill cystadleuaeth poster diogelwch ar y ffyrdd

Mae Disgybl Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Saint-y-brid wedi ennill cystadleuaeth poster Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru gyda chais sy'n hyrwyddo'r terfyn cyflymder 20mya newydd a gyflwynwyd i bentref yr ysgol.

 

  • Dydd Mawrth, 19 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg

    Rural Vale



Roedd Emily Rideout, sydd bellach yn mynychu Ysgol Gyfun y Bont-faen, yn un o bum enillydd o bob rhan o'r wlad.


Gwahoddwyd pobl ifanc hyd at 18 oed i ddylunio poster i hyrwyddo'r defnydd diogel o deithio llesol, manteision terfynau cyflymder 20 mya ar gymunedau neu i annog ymddygiad mwy diogel gan yrwyr ledled Cymru.

 

20poster

Cafodd y posteri eu beirniadu gan Grŵp Gweithredol Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru ar wreiddioldeb, creadigrwydd, effaith a'r neges sy'n cael ei phortreadu. 

Dywedodd Emily: "Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar blant oherwydd mae'r ymgyrch yn ymwneud â'u cadw nhw'n ddiogel.  Cafodd tei'r ysgol a logo'r ysgol eu cynnwys i atgoffa pobl bod ysgol yn y pentref ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n hwyl, ac yn rhan o'r thema, pe bai'r car yn cynnwys lliwiau Saint-y-brid hefyd.  Roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n bwysig defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg gan fod arwyddion ffyrdd yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Fy hoff ran oedd gwneud lluniau o'r plant a'u gwneud yn hapus ac yn chwareus."

Cafodd Saint-y-brid ei dewis fel un o wyth ardal yng Nghymru i dreialu terfyn cyflymder newydd o 20mya yn gynharach eleni.


Ar ôl bod yn barth 30mya yn flaenorol, cyflwynwyd y cyfyngiad is yr haf diwethaf.
Nid yn unig y mae teithio ar y cyflymder hwnnw'n fwy diogel, mae hefyd o fudd i'r gymuned drwy hyrwyddo opsiynau teithio iach fel cerdded a beicio. 
Os bydd y peilot yn llwyddiannus, 20mya fydd y terfyn cyflymder is diofyn newydd ledled Cymru.

Dywedodd Duncan Mottram, pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Saint-y-brid: "Mae'r ysgol a'r gymuned leol yn falch iawn o fod yn chwarae rhan mor flaenllaw yn y fenter gyffrous hon. Bydd lleihau'r terfyn cyflymder ar ein ffyrdd yn eu gwneud yn fwy diogel a hefyd yn helpu i hyrwyddo mathau eraill, gwyrddach o drafnidiaeth fel cerdded a beicio.


"Mae disgyblion wedi bod yn rhan o'r prosiect hwn o'r cychwyn cyntaf, gan gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio arwyddion ffyrdd sy'n ymddangos o amgylch y pentref, tra bod grŵp trigolion lleol hefyd wedi dangos eu cefnogaeth o'r cychwyn cyntaf.


"Rydym yn falch o fod yn un o'r cynlluniau peilot ar gyfer y terfyn cyflymder is newydd hwn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei gyflwyno ledled y wlad."