Cost of Living Support Icon

 

Cau maes parcio aml-lawr dros dro yn y Barri 

Bydd maes parcio aml-lawr Cyngor Bro Morgannwg ar Court Road, y Barri yn cau i wneud gwaith hanfodol yno.

 

  • Dydd Mercher, 20 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg



Bydd y cau yn digwydd ar yr wythnos yn dechrau 25 Hydref 2021 (hanner tymor yr ysgol) er mwyn osgoi cymaint o darfu ag y bo modd ar staff yr ysgol sy'n defnyddio'r maes parcio yn ystod y tymor.

 

Bydd y maes parcio ar gau am wythnos tra bydd gwaith yn mynd rhagddo.


Mae hyn yn dilyn Asesiad Risg Tân a gomisiynwyd yn gynharach eleni a nododd sawl maes i'w gwella. 


Bydd meysydd parcio eraill yn yr ardal yn gweithredu fel arfer: 


Kendrick Road – Parcio am ddim

Thompson Street - Parcio am ddim


Wyndham Street – Am ddim 0-2 awr, £2.00 2–4 awr neu £6.00 Drwy'r Dydd.
Dydd Sul - Parcio am ddim

Deiliaid Bathodyn Glas - Parcio am ddim

Beiciau Modur - Parcio am ddim