Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn ymuno ag ymgyrch i recriwtio gofalwyr maeth

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymuno ag ymgyrch i gynyddu nifer ac amrywiaeth gofalwyr maeth yng Nghymru yn sylweddol.

 

  • Dydd Llun, 20 Mis Medi 2021

    Bro Morgannwg



Wedi'i threfnu gan y corff cenedlaethol Maethu Cymru, mae'n dwyn y 22 Awdurdod Lleol ynghyd i ffurfio rhwydwaith newydd sydd â’r nod o gael effaith genedlaethol sylweddol ar ddyfodol pobl ifanc. 


Mae cannoedd o blant yn chwilio am deuluoedd maeth a lle i’w alw’n gartref yng Nghymru, gyda Chyngor y Fro yn helpu mwy nag 20 yr wythnos, ac mae dros draean (39 y cant) o oedolion Cymru yn dweud eu bod wedi ystyried bod yn ofalwr maeth.


Nod yr ymgyrch benodol hon yw cynyddu nifer y rhieni maeth sydd eu hangen i alluogi plant i aros yn eu hardaloedd lleol, pan fydd hynny'n iawn iddynt.   


Gall cadw plant yn eu cymunedau fod o fudd enfawr, yn cynnal grwpiau cyfeillgarwch a threfniadau ysgolion, ac felly helpu i fagu hyder a lleihau straen.

 

LA-FOSTERCARER-WELSHDywedodd y Cynghorydd Ben Gray, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd: "Mae dod yn ofalwr maeth yn benderfyniad i helpu plant lleol sydd angen rhywun i wrando arnynt. I gredu ynddynt. Plant sydd angen rhywun ar eu hochr nhw, rhywun i'w caru nhw.


"Mae'n benderfyniad i weithio gyda phobl sy'n rhannu'r nodau hynny, pobl fel ein tîm maethu yma ym Mro Morgannwg. Mae dal angen recriwtio tua 550 o ofalwyr maeth a theuluoedd newydd ledled Cymru bob blwyddyn. Mae hyn er mwyn diwallu’r angen gan blant am ofal a chymorth, a llenwi’r bylchau wrth i ofalwyr ymddeol neu er mwyn cynnig cartref parhaol i blant.


“Mae unrhyw un sy'n maethu gyda'n tîm Maethu Cymru yn gwneud hynny gan wybod, i ba le bynnag y bydd eu dyfodol maethu yn mynd â nhw, y byddwn ni wrth law bob cam o'r ffordd gyda'r holl arbenigedd, cyngor a hyfforddiant ymroddedig sydd eu hangen arnynt i’w cefnogi ar eu taith faethu. 


“Mae gan bob plentyn yr hawl i ffynnu. Y cyfan sydd ei angen arnom yw mwy o bobl fel chi i agor eu drysau a'u croesawu nhw.” 

Wrth lansio Maethu Cymru ym mis Gorffennaf, dwedodd Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol: “Mi wn o wrando ar ofalwyr maeth mor werthfawr y gall maethu fod. Bydd y fenter newydd hon o fudd i blant sy'n derbyn gofal ac yn galluogi timau recriwtio a gofal maeth Awdurdodau Lleol ledled Cymru i feddwl am y darlun mwy, gan greu effaith genedlaethol heb golli mantais eu harbenigedd lleol penodol. 


"Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i leihau nifer y plant sy’n derbyn gofal, rhoi gwell canlyniadau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac, yn bwysig, dileu yr elfen o elw sy’n gysylltiedig â phlant sy’n derbyn gofal. Mae Maethu Cymru yn rhan o’r gwaith o gyflawni'r addewid hwn a bydd yn galluogi plant i aros fwy yn eu cymuned a bodloni anghenion esblygol plant maeth a'r bobl sy'n eu maethu nhw.” 

Tra bod pob plentyn yn wahanol, mae’r gofalwr maeth sydd ei angen arno hefyd yn wahanol. Nid oes y fath beth â theulu maeth 'nodweddiadol'. P'un a yw rhywun yn berchen ar ei gartref ei hun neu’n rhentu, p'un a yw rhywun yn briod neu'n sengl. Beth bynnag fo'u rhyw, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hethnigrwydd neu ffydd, mae yna bobl ifanc sydd angen rhywun i fod yn gefn iddynt.