Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn lansio cynllun bancio amser

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi lansio prosiect arloesol sy'n gwobrwyo gwirfoddolwyr am yr amser y maen nhw’n ei gyfrannu. 

 

  • Dydd Gwener, 24 Mis Medi 2021

    Bro Morgannwg



Wedi'i sefydlu gan Dîm Tai'r Awdurdod mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwirfoddol Morgannwg (GGM) a Benthyg Cymru, mae'r cynllun Amser, Tyfu, Ennill yn gweld cynorthwywyr yn cael tocynnau y gellir eu defnyddio tuag at amrywiaeth o weithgareddau.

 

Mae pob awr a dreulir yn gwirfoddoli yn werth un credyd y gellir ei wario yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Memo yn y Barri, Gerddi Dyffryn, canolfannau hamdden y Fro, Clwb Pêl-droed Unedig Tref y Barri, neu Bêl-baentio Quasar. 

 

Enillir credydau drwy gasglu sbwriel, garddio, hyfforddi/mentora, gyrru, cynnig cefnogaeth gan gymheiriaid, mynd â chŵn am dro, cyfeillio, paentio, codi arian, helpu mewn clybiau gwaith cartref a mwy.

 

Wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy raglen Atal a Blynyddoedd Cynnar Caerdydd a Bro Morgannwg, mae cyfleoedd gwirfoddoli traddodiadol a rhai opsiynau digidol ar gael.

 

timebanking

Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Dai a Gwasanaethau Adeiladu: "Mae hon yn fenter wych sy'n cynnig cyfle i bobl ledled y Fro dyfu eu sgiliau a chael eu gwobrwyo drwy wirfoddoli.

 

"Gall gwirfoddoli wneud gwahaniaeth i gymunedau, gwella rhagolygon swyddi a bod yn hynod foddhaol.

 

"Mae hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol mewn cymunedau ac yn hyrwyddo lles. Dyma ddau faes y mae’r pandemig wedi effeithio'n ddifrifol arnyn nhw, ac sydd wedi'u nodi fel blaenoriaethau gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg."

 

Bydd GGM yn helpu i ddarparu gwirfoddolwyr ar gyfer y prosiect, gan sicrhau arfer da a chynnig cyfleoedd i wahanol gymunedau gymryd rhan mewn gwirfoddoli.

 

Mae Benthyg Cymru yn rhwydwaith o leoedd lle gall gyfrannu eitemau nad oes eu hangen arnynt mwyach a benthyg rhai defnyddiol. 

 

Mae hyn yn helpu i leihau gwastraff, yn arbed arian, yn cyfrannu at yr economi sy'n rhannu ac yn hybu cydnerthedd cymunedol.

 

Yn y Barri, mae 'llyfrgell pethau' Benthyg Cymru i'w gweld yn siop Awesome Wales ar Heol Holltwn.

 

Mae amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael yn ogystal â'r cyfle i fenthyg eitemau fel offer ar gyfer garddio a DIY ac offer ymarfer corff.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y siop ar gael yma, a dylai unrhyw un sy'n dymuno rhoi o’u hamser ac ennill credyd ymweld â gwefan y Cyngor.