Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn nodi Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant 

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i nodi Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant. 

 

  • Dydd Iau, 30 Mis Medi 2021

    Bro Morgannwg



New-GLAM-logo-2021-Cropped-500x97Yn digwydd rhwng 27 Medi a Hydref 3, crëwyd Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant gan Inclusive Employers, sefydliad aelodaeth amrywiaeth a chynhwysiant cyntaf y Deyrnas Gyfunol.


Nawr yn ei nawfed flwyddyn, nod yr wythnos yw codi ymwybyddiaeth o gynhwysiant yn y gweithle.  


Thema 2021 yw #UnedigdrosGynhwysiant ac mae'n canolbwyntio ar ddod â phobl a sefydliadau at ei gilydd i ddysgu ar y cyd a rhannu arfer gorau.


Ddydd Llun, gwahoddwyd staff i gymryd rhan mewn cwis cynhwysiant, a Ddydd Mawrth cafodd cydweithwyr eu hannog i feddwl am newidiadau y gallent eu gwneud i amrywio’u safbwynt ar hil.


Ddydd Mercher cyhoeddodd Uwch Dîm Arwain y Cyngor bod staff yn gallu ychwanegu rhagenwau i’w llofnod e-bost mewn cam ymlaen i gefnogi hunaniaeth rhywedd.


Ac fe gafodd logo newydd Glam, rhwydwaith y Cyngor ar gyfer cydweithwyr LHDT+ a’u cynghreiriaid, ei ddadorchuddio Ddydd Iau.


Mae hwnnw’n cynnwys y faner traws a’r lliwiau a ddefnyddir gan fudiad Black Lives Matter i gynrychioli pobl groenliw.

Dywedodd y Cynghorydd Neil Moore, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae'r wythnos hon yn cynnig cyfle gwych i ddathlu'r amrywiaeth sy'n bodoli yn ein cymunedau ac yn helpu i'w gwneud mor fywiog. 


"Fel sefydliad, rydym yn sefyll dros gynwysoldeb waeth beth fo'i hil, oedran, rhyw, crefydd, anabledd neu gyfeiriadedd rhywiol ac mae'r wythnos hon yn gyfle i gydnabod y ffaith honno." 


Yn 2020, cymerodd bron i 2000 o sefydliadau ran yn Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau mewnol yn cwmpasu ystod eang o bynciau cynhwysiant yn y gweithle, yn ogystal â gweminarau a heriau dyddiol gan Inclusive Employers. 

Mae rhagor o wybodaeth am Wythnos Genedlaethol Cynhwysiant a sut i gymryd rhan ar gael drwy wefan.