Cost of Living Support Icon

 

Trigolion y Glannau yn ymuno â thimau'r Cyngor ar gyfer prosiect adnewyddu

Yn ddiweddar, ymunodd Cyngor Bro Morgannwg â thrigolion Ystâd y Glannau yn y Barri i ailwampio'r ardal.

 

  • Dydd Iau, 23 Mis Medi 2021

    Bro Morgannwg



Heol Gwendoline Park openingDaeth aelodau o'r gymuned, hen a newydd, ynghyd, â'r nod cychwynnol o dacluso'r fynedfa i'r ystâd. Cliriwyd gwerth dros 20 mlynedd o wair pampas a bambŵ, gan ddatgelu'r llechi a oedd wedi'u cuddio gynt. 


Yn dilyn hyn, sefydlwyd grŵp WhatsApp lle gellir rhannu syniadau i wella a chynnal a chadw'r ystâd.
Ers hynny mae sbwriel wedi’i gasglu, ac mae grisiau a llwybrau wedi'u clirio, gyda’r ymdrechion yn cyrraedd penllanw dros wyliau'r haf pan gafodd parc plant Heol Gwendoline ei ailwampio.


Gweithiodd Adam Sargent a Wyndham Hughes, ill dau o dîm Gwasanaethau Cymdogaeth y Cyngor yn agos â'r grŵp, ynghyd â'r Cynghorydd lleol Ian Johnson a'r Swyddogion Cymorth Cymunedol Sarah Johnson a Leanne Davies.

 

Mae trigolion wedi mynegi eu diolch i Adam a Wyndham am ddarparu meinciau a biniau newydd a phaent ar gyfer adnewyddu'r parc.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Peter King: 


"Rydym yn ffodus o gael ymdeimlad mor gryf o le a chymuned ym Mro Morgannwg. Mae'r prosiect hwn yn dangos cymaint mae ein preswylwyr yn ei wneud i gynnal y mannau sy'n arbennig iddynt.


"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, ac roeddwn yn falch o weld cynifer o aelodau o'r gymuned hon, yr hen a'r ifanc, yn y digwyddiad agoriadol."