Cost of Living Support Icon

 

Cyngor i Weithio Gyda Thrigolion, Busnesau A'r Gymuned Enhangach Ar Welliannau Pellach i Lan y Môr Penarth

 

  • Dydd Mawrth, 16 Mis Awst 2022

    Bro Morgannwg



Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn siarad gyda thrigolion lleol, busnesau, a grwpiau cymunedol am sut i wella glan y môr Penarth a'r cyffiniau ymhellach.  


Bydd rhaglen o ymgysylltu a thrafod yn dechrau'r wythnos hon gyda chyfres o arolygon barn ar-lein a chyfle i bobl rannu eu syniadau ar-lein a defnyddio bwrdd syniadau ym Mhafiliwn Pier Penarth.   


Bydd y rhain yn llywio ymarfer arolygu mwy ffurfiol a chyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb-yn-wyneb ar ddechrau'r hydref. 

 

Cllr Lis Burnett

Mae'r Cyngor yn gobeithio wedyn ymgynghori ar gynlluniau penodol a gafodd eu datblygu mewn ymateb i'r adborth mae'n ei dderbyn erbyn diwedd y flwyddyn.   

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae glan y môr Penarth wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf. Mae buddsoddiad yn y pier, ffyrdd, palmentydd a goleuadau stryd wedi gwella golwg y gyrchfan. Ar yr un pryd, mae cyfleoedd newydd i gaffis a bwytai fasnachu, ac mae ailagor y Pafiliwn a’r Cymin wedi newid y lle. 
 
“Rydym nawr am fynd ymhellach a pharhau i ddatblygu'r ardal glan môr yn gyrchfan sy'n ffynnu drwy gydol y flwyddyn gyda chynnig unigryw i ymwelwyr a thrigolion lleol. 
 
"Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn cydweithio'n agos gyda Chyngor Tref Penarth ac mae eisiau clywed gan gynifer o bobl â phosib.
 
"Yn fwriadol iawn, dydyn ni ddim yn cyflwyno unrhyw gynlluniau ar gyfer glan y môr yn y cyfnod cynnar yma. Dylai cam nesaf datblygiad Penarth gael ei arwain gan y rhai sydd wedi gwneud yr Esplanâd yn gymaint o lwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf. Dyna pam rydym yn dechrau sgwrs gyda thrigolion, grwpiau a busnesau lleol i helpu i lywio ein cynlluniau at y dyfodol.  
 
"Rydym heddiw wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at holl fusnesau a thrigolion glan y môr.  Mae croeso i bob safbwynt ar y cam hwn a bydd y rhain yn cael eu casglu ar-lein yn ogystal ag wyneb-yn-wyneb. Wrth i'n rhaglen ymgysylltu fynd rhagddi, byddwn hefyd yn gofyn am farn masnachwyr a grwpiau cymunedol lleol eraill, yn ogystal â rhai trigolion Penarth. 
 
"Wrth i themâu ddod allan o'r sgyrsiau cychwynnol hyn, byddwn yn ceisio datblygu’r rhain i mewn i gynllun i gefnogi'r gwaith o ddatblygu glan y môr yn barhaus, a sicrhau ei bod yn ffynnu i bawb." 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi buddsoddi mwy na £500,000 ym Mhafiliwn Pier Penarth a'r Esplanâd yn y ddwy flynedd ddiwethaf.   

Cytunwyd ar estyniad i’r trwyddedau masnachu awyr agored presennol ar gyfer busnesau glan y môr Penarth gan gabinet y Cyngor ym mis Mehefin 2022.