Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn holi yr cyhoedd ynghylch gweithredu ar dai gwag

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gofyn i'r cyhoedd am eu barn wrth iddo geisio mynd i'r afael â’r mater tai gwag yn y Sir.

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Rhagfyr 2022

    Bro Morgannwg



Ar adeg pan fo'r galw am dai yn uwch nag erioed, mae'n bwysig sicrhau bod cynifer o gartrefi â phosib yn dod yn ôl i ddefnydd buddiol. 


Byddai hyn yn helpu'r Cyngor i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy, y mae galw mawr amdanynt.


Mae cartrefi sy'n cael eu gadael yn wag am gyfnodau hir yn dihysbyddu adnoddau'r Cyngor mewn cyfnod lle mae cyllidebau'n dynnach nag erioed.


Mae yna gost i ddelio â chwynion yn ymwneud â'u cyflwr a'r gwaith atgyweirio brys sy'n aml angen ei wneud.
Gyda hyn mewn golwg, mae cynyddu faint y Dreth Gyngor sy'n cael ei godi ar ail gartrefi a thai gwag yn cael ei ystyried, gan roi pedwar opsiwn i breswylwyr mewn ymgynghoriad cyhoeddus.


Byddai'r cyntaf yn gweld cyfradd y Dreth Gyngor ar gyfer yr eiddo hyn yn aros yr un fath, byddai'r ail yn ei gweld yn dyblu, byddai'n treblu dan y trydydd cynnig ac yn pedwarplygu gyda'r pedwerydd opsiwn.

 

Cllr Lis Burnett smallDywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: "Mae angen sicrhau bod cynifer o dai â phosib mewn defnydd buddiol, yn enwedig ar adeg pan fo’r bobl sydd angen tai yn aros am gyfnodau hir.  Nid yw bod â nifer fawr o eiddo gwag yn hirdymor yn gynaliadwy yn y cyd-destun hwn ac, yn ogystal, mae'n arwain at gostau diangen i'r Cyngor.


"Yn amgylchedd straen ariannol digynsail ar draws y Llywodraeth Leol, byddai'r incwm ychwanegol hwn yn helpu'r Cyngor i fynd i'r afael â'r bwlch cyllid sylweddol mae'n ei wynebu.


"Y gobaith hefyd yw y gall cynyddu’r Dreth Gyngor ysgogi rhai perchnogion sydd wedi esgeuluso eu heiddo i weithredu."


Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio ddydd Llun ac mae modd eu gweld ar wefan y Cyngor.


Mae'r amser mwyaf priodol i gyflwyno unrhyw bremiwm posib hefyd yn cael ei ystyried.


Ar gyfer cartrefi gwag hirdymor, mae Ebrill 2023 neu 2024 yn ddyddiadau posibl, gydag Ebrill 2024 neu 2025 yn cael eu hawgrymu ar gyfer ail gartrefi. 


Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithredu cynllun benthyciadau sy'n cael ei dargedu at dai gwag ar ran Llywodraeth Cymru.


Fel rhan o broses pennu’r gyllideb, mae'r Awdurdod hefyd yn edrych ar gynlluniau partneriaeth posib gyda Llywodraeth Cymru i helpu i gynorthwyo'r bobl hynny gyda thai sector preifat gwag a dod â nhw'n ôl i ddefnydd.