Cost of Living Support Icon

 

Ysgol Gynradd Trwyn y De yn ennill gwobr gynllunio y DU

 

  • Dydd Mawrth, 06 Mis Rhagfyr 2022

    Bro Morgannwg


 

Planning Excellence AwardsMae prosiect Ysgol Gynradd Trwyn y De Cyngor Bro Morgannwg wedi cipio Gwobr Rhagoriaeth Cynllunio mewn Iechyd a Lles y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.


Cyhoeddwyd mewn seremoni yn Llundain yr wythnos ddiwethaf, fod y Cyngor wedi curo’r gystadleuaeth o lu o brosiectau arloesol i gipio'r wobr hon sydd ar gyfer y DU gyfan.


Nod gwobrau yw arddangos a gwobrwyo llwyddiannau eithriadol wrth gynllunio, gan ddathlu'r cyfraniad y maent wedi'i wneud i gymunedau a'u heffaith ar y diwydiant.


Aeth Ysgol Gynradd Trwyn y De ymlaen i'r llwyfan cenedlaethol ar ôl ennill Gwobr Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru ar gyfer Ragoriaeth Cynllunio ym mis Awst fel yr ysgol garbon sero-net gyntaf yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Ruba Sivagnanam, Aelod Cabinet Bro Morgannwg dros Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Gwasanaethau Rheoliadol:  "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wedi cael ei gydnabod fel hyn a hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r gwaith caled i gyflawni'r prosiect arloesol hwn.

"Yn benodol, hoffwn gydnabod staff ein Tîm Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, sydd wedi chwarae rhan mor allweddol yn y cynllun hwn.

"Fe wnaeth staff cynllunio hefyd gyfraniad pwysig i leoliad, dyluniad, a chyflawni'r prosiect, gan sicrhau bod y cynllun wedi arwain at fath cynaliadwy o ddatblygiad ar gyfer heddiw a chenedlaethau'r dyfodol i ddod.

“Bydd yr adeilad ysgol newydd hwn yn cynnig amgylchedd addysgu a dysgu modern i staff a disgyblion yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleusterau ar gyfer y gymuned leol.

"Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd, mae'r Cyngor wedi lansio ei fenter Prosiect Sero, sy'n ceisio gwneud y sefydliad yn garbon niwtral erbyn 2030. Mae creu ysgolion fel hyn sy'n hynod ecogyfeillgar yn rhan allweddol o'r addewid hwnnw.

"Mae hwn yn brosiect pwysig yn ein rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, cynllun gwella hirdymor, a ddarperir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a fydd yn gweld £149 miliwn yn cael eu buddsoddi mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylcheddau dysgu cwbl fodern."

Planning Excellence Southpoint PrimaryCwblhawyd gwaith ar brosiect Ysgol Gynradd Trwyn y De, oedd yn werth £5.4 miliwn, ym mis Chwefror a dechreuodd yr addysgu yn y cyfleuster tra chyfoes yn fuan wedyn.

Mae ei ddyluniad chwyldroadol yn golygu y bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael eu lleihau'n fawr ac y bydd unrhyw allyriadau sy’n weddill yn cael eu gwrthbwyso, gan niwtraleiddio effaith amgylcheddol yr ysgol.


 Mae'r adeilad wedi'i gynllunio i gyflawni carbon sero-net drwy ffabrig adeiladu gwell, gwneud y mwyaf o ynni solar, mwy o baneli ffotofoltäig gyda batris storio a phwmp gwres ffynhonnell aer.

Mae lle awyr agored sylweddol ar gyfer gweithgareddau chwarae a chwaraeon a storfa ar gyfer beiciau a sgwteri i helpu i hyrwyddo teithio llesol. 

Yn ogystal, mae gan yr ysgol bwyntiau gwefru cerbydau trydan, ardaloedd cynefin gwyrdd sy’n cynnwys blodau a choed ar y safle i wella’r ecoleg, a maes chwarae ac ardal gemau aml-ddefnydd.

Dechreuodd y contractwyr, ISG Construction, weithio ar yr ysgol, sydd â lle i 210 o ddisgyblion a 48 o leoedd meithrin rhan-amser, ym mis Ionawr y llynedd.

Mae’r addysgu'n cael ei gynnal mewn ystafelloedd dosbarth ar ddau lawr, ac mae’r dyluniad hefyd yn cynnwys prif neuadd ar gyfer chwaraeon a bwyta, swyddfeydd, ystafell staff ac ardaloedd seibiant.

Mae'r datblygiad yn ganlyniad i ymdrech gydweithredol a oedd yn cynnwys y sector preifat a'r sector cyhoeddus a lle bu’r Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, Taylor Wimpey, Aecom, ISG, Stride Treglown a McCanns & Partners.  

Disgrifiodd y beirniaid y prosiect hwn fel esiampl i ysgolion, gan helpu i bennu ymagwedd cenedlaethol newydd yng Nghymru. 

Cymeradwyon nhw’r arweinyddiaeth i ddarparu ysgol gynradd carbon sero-net gyntaf Cymru yn rhan o ddatblygiad cyfun defnydd cymysg a'i manteision i iechyd a lles disgyblion a'r gymuned ehangach.

Nodwyd hefyd y cysylltiadau teithio llesol o ansawdd uchel, mynediad at natur a mannau gwyrdd a darparu amgylcheddau dysgu cyfoethog a chyfleusterau cymunedol.