Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn datgelu buddion cymunedol o waith gwella ysgolion

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi nodi sut mae ei raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu wedi bod o fudd i'r ardaloedd lleol lle mae gwaith uwchraddio ysgolion wedi digwydd.

 

  • Dydd Gwener, 02 Mis Rhagfyr 2022

    Bro Morgannwg



Beach clean event in PenarthMae'r corff hwn o waith yn ymrwymiad hirdymor, a gyflwynir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, i fuddsoddi £149 miliwn mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylcheddau dysgu hynod fodern. 


Hyd yn hyn, mae dros ddwsin o ysgolion cynradd ac uwchradd naill ai wedi'u hadeiladu neu eu hailwampio'n helaeth o dan y cynllun.


Ond mae cwmpas y gwaith hwn yn ymestyn tu hwnt i wella ysgolion i'r disgyblion a'r staff sy'n gweithio yno.
Y nod hefyd yw gwella'r gymuned ehangach.

Dwedodd Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg – Y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Ers 2019 mae ein rhaglen gwella ysgolion wedi gweld cyfleusterau addysgol yn cael eu trawsnewid ledled y Sir.


"Mae disgyblion nawr yn dysgu dan amodau o'r radd flaenaf, syn rhoi'r cyfle gorau iddynt lwyddo.


"Fodd bynnag, nid yw ysgolion yn sefyll ar wahân, maent yn rhan o ardal leol ehangach ac mae'n bwysig bod y gwaith hwn hefyd o fudd i'r gymuned honno.


"Mae hynny'n cael ei gyflawni nid yn unig trwy'r cyfleusterau y mae ein hysgolion yn eu cynnig i'r cyhoedd, ond hefyd drwy’r effaith gadarnhaol y mae'r contractwyr sy'n eu datblygu wedi'i gwneud.


"Mae swyddi wedi'u creu a llwybrau gyrfa wedi'u creu fel rhan o'r prosiectau hyn, ynghyd â llu o fanteision eraill."

 

Yn yr haf, bu'r Cyngor yn gweithio gydag Academi Bêl-droed Joe Ledley i gynnig sesiynau pêl-droed i blant sy'n mynychu sesiynau pêl-droed yn Ysgol Uwchradd Whitmore, prydau iach am ddim ac amrywiaeth o fuddion eraill.


Cwpwl o fisoedd yn ôl, ymunodd cynrychiolwyr o gontractwyr ISG ac AECOM â staff y Cyngor a disgyblion lleol ar gyfer digwyddiad glanhau traeth ym Mhenarth.


Dim ond un enghraifft yw hynny o sut mae datblygwyr wedi rhoi yn ôl i'r ardal leol.


Mae rhai eraill yn cynnwys:

 

  • Creu 158 o swyddi llawn amser newydd
  • Cefnogi 104 o brentisiaethau a 32 o leoliadau profiad gwaith
  • Mae tua 99 y cant o wastraff adeiladu wedi osgoi tirlenwi
  • Ar gyfartaledd, mae datblygwyr wedi cael gwariant adeiladu o 82 y cant yng Nghymru
  • Mae 85 y cant o’r isgontractwyr wedi dod o Gymru
  • Mae tua 50 y cant o'r gweithlu wedi dod o'r cod post lleol
  • Mae 39 o fentrau cymunedol wedi'u cwblhau ac mae 13 arall wedi'u cynllunio.
  • Mae pob ysgol newydd yn ynni-effeithlon ac ecogyfeillgar
  • O fis Ionawr eleni, mae pob ysgol newydd wedi cynhyrchu carbon sero net.