Ansawdd dwr ar bedwar traeth yn rhagorol
Mae ansawdd y dŵr ymdrochi ar bedwar traeth a gynhelir gan Gyngor Bro Morgannwg wedi derbyn sgôr rhagorol yn dilyn profion gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Barnwyd bod Traeth y Cnap yn y Barri, Southerndown, Penarth a Col-Huw yn Llanilltud Fawr i gyd â’r safon dŵr uchaf, tra barnwyd Bae Whitmore Ynys y Barri a Bae Jackson yn dda a boddhaol yn y drefn honno.

Mae'r rhain yn ganlyniadau siomedig i ddau o brif draethau ymdrochi’r Barri a byddant am y drydedd flwyddyn yn olynol yn atal Bae Whitmore rhag ennill Baner Las.
Mae'r Cyngor yn ymwybodol bod gorlif carthffosiaeth cyfunol yn dal i gael eu defnyddio gan Dŵr Cymru a dros y flwyddyn ddiwethaf bod gollyngiadau i'r Hen Harbwr wedi'u hadrodd.
Mae'n awyddus i ddatblygu dull cydweithredol o nodi gwelliannau yn y dyfodol a chyfleoedd i fuddsoddi er mwyn lleihau effaith dŵr gwastraff ar ansawdd tir a dŵr yn y Fro.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru, y nod yw datblygu model rhagfynegi ansawdd dŵr ar gyfer Bae Whitmore a Bae Jackson.
Yn ddiweddar, ysgrifennodd Arweinydd y Cyngor at Dŵr Cymru yn mynegi pryder ynghylch parhad y defnydd ar y gorlifiau hyn, sydd wedi'u cynllunio i ollwng carthion i'r môr yn ystod cyfnodau o law trwm, ac fe ystyriwyd adroddiad ar y mater hwn gan y Cabinet ym mis Hydref.
Dwedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd y Cyngor: "Er ei bod yn braf nodi safon uchel ansawdd y dŵr ar nifer o'n traethau, rwy'n siomedig iawn nad dyma'r safon ar hyd ein holl harfordir gwych. Yn ogystal â bod yn fagned i dwristiaid, mae ein traethau yn cael eu defnyddio fwy a mwy gan ein trigolion er mwyn ymarfer corff.
"Ar adeg pan fyddwn i gyd yn ymwybodol iawn o'n cyfrifoldebau ynglŷn â'r amgylchedd lleol, ni all fod yn iawn ein bod yn parhau i dderbyn defnydd o dechnoleg hen ffasiwn wrth reoli ein gwastraff dŵr.
"Bydd y Cyngor yn parhau i wthio am y buddsoddiad mewn seilwaith a fydd yn gwneud unrhyw asesiad ansawdd dŵr islaw rhagorol yn rhywbeth o'r gorffennol."