Cost of Living Support Icon

 

Mae gorsafoedd trwsio beiciau newydd ar agor i'w defnyddio ledled y Fro 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi gosod 10 gorsaf drwsio beiciau newydd ar draws y Sir.

 

  • Dydd Gwener, 11 Mis Chwefror 2022

    Bro Morgannwg



Bicycle Repair SchemeGyda chyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'r Cyngor yn gobeithio y bydd y cynllun yn annog trigolion a theuluoedd i dyrchu am eu beiciau a mwynhau taith heb broblemau.

 

Gyda nifer o fentrau'r Cyngor yn annog trigolion i gadw'n heini a defnyddio teithio llesol, bydd y gorsafoedd trwsio newydd yn cynnig cyfleuster am ddim i feicwyr atgyweirio eu beic gydag offer addas a phympiau aer. Gellir defnyddio'r pympiau hefyd ar gadeiriau olwyn, cadeiriau gwthio a pheli pê-droed.

 

Mae safleoedd y gorsafoedd atgyweirio wedi'u gosod mewn lleoliadau sy'n gogwyddo at deuluoedd:

 

  • Gerddi Alexandra, Y Barri
  • Maes parcio Ynys y Barri
  • Canolfan Hamdden y Barri
  • Canolfan Chwaraeon Colcot
  • Canolfan Hamdden y Bont-Faen
  • Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr
  • Maes parcio traeth Llanilltud Fawr
  • Canolfan Gymunedol Murchfield
  • Canolfan Hamdden Penarth
  • Parc Gwledig Cosmeston

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithio i osod dwy orsaf arall ym Mharc Porthceri a Chanolfan Gymunedol Tregolwyn.


Mae'r offer wedi'i adeiladu o ddeunyddiau caled eu traul er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwrthsefyll fandaliaeth a byddant yn gallu gwasanaethu eu cymunedau ymhell i'r dyfodol.


Mae'r cynllun hwn yn cysylltu'n agos â menter Prosiect Sero'r Cyngor. 


Prosiect Sero yw cynllun y Cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a'i nod yw lleihau allyriadau carbon y sefydliad i sero net erbyn 2030.


Mae'r Cyngor yn gweithio i weithredu a gwella seilwaith a llwybrau teithio llesol ledled y Fro i annog trigolion i gerdded neu feicio, lleihau tagfeydd traffig ac allyriadau C02. 


Mae'r prosiect hefyd yn cyd-fynd ag amcanion cynllun Symud Mwy Bwyta'n Dda Bro Morgannwg.


Mae'r Cyngor yn bartner i brosiect Symud Mwy Bwyta'n Dda, sy'n ceisio gwella iechyd a lles trigolion yn y tymor hir drwy annog y boblogaeth i fod yn iachach drwy symud mwy a bwyta'n dda. 


Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Mae'n wych gweld gorsafoedd trwsio beiciau newydd y Fro ar agor i'r cyhoedd eu defnyddio.

 

"Gyda mwy a mwy o drigolion yn defnyddio eu beiciau, mae'n bwysig i ni ein bod yn gweithredu cynlluniau a chyfleusterau i wneud eu teithiau mor llyfn a phleserus â phosibl.

 

"Mae annog teithio llesol yn rhan allweddol o'n Strategaeth Prosiect Sero, sef ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd."

 

Os hoffech weld gorsaf drwsio beiciau yn eich ardal, cysylltwch ag activetravel@valeofglamorgan.gov.uk.