Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn cynnal gwaith atal llifogydd yn Ninas Powys a Sili

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi sicrhau mwy na £140,000 gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i sut y gall cartrefi yn Ninas Powys wrthsefyll llifogydd yn well, tra bod gwaith i osod mesurau amddiffyn rhag llifogydd ger tua 20 eiddo yn Sili eisoes wedi dechrau.un.

 

  • Dydd Gwener, 21 Mis Ionawr 2022

    Bro Morgannwg

    Dinas Powys



Mae tua 244 o eiddo sydd mewn perygl o lifogydd yn Ninas Powys wedi cael cynnig arolygon unigol yn ddiweddar i asesu pa mor addas ydynt i dderbyn addasiadau i wrthsefyll llifogydd.


Bydd gwybodaeth a gesglir o'r arolygon hyn yn cael ei defnyddio i sefydlu cost ddangosol ar gyfer y gwaith cyn ceisio cyllid pellach.


Yn y cyfamser, mae amddiffynfeydd fel drysau llifogydd a rhwystrau drysau yn cael eu gosod mewn cartrefi yn Sili i'w helpu i ymdopi'n well â llifogydd.

 

flood2

Cafodd Dinas Powys a Sili eu heffeithio'n wael gan y llifogydd a darodd rannau o Dde Cymru ym mis Rhagfyr 2020.


Mae gwaith i nodi achos y llifogydd hefyd yn digwydd mewn ymdrech i leihau'r perygl cyffredinol o lifogydd yn ardaloedd Dinas Powys a'r Sili.


Mae hyn yn cael ei wneud ar y cyd ag asiantaethau rheoli risg eraill, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. 

Dwedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Achosodd y llifogydd yn Ninas Powys a'r Sili ddiwedd 2020 drawma difrifol i'r rhai oedd yn gysylltiedig.

 

"Rwy'n cydymdeimlo'n fawr ag unrhyw un sy'n gweld eu cartref yn boddi mewn dŵr, y difrod a'r aflonyddwch yn sgil hynny a'r pryder y gallai ddigwydd eto. "Fel Cyngor, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni ei wneud i leihau'r risg y bydd rhywbeth mor ofnadwy’n digwydd eto.

 

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau'r cyllid hwn i ddod o hyd i ffyrdd o wella'r sefyllfa yn Ninas Powys a bod rhywfaint o waith amddiffyn rhag llifogydd eisoes wedi dechrau yn Sili.


"Mae'r ddau ddatblygiad yn gamau pwysig tuag at sicrhau bod eiddo agored i niwed yn cael eu hamddiffyn yn well yn y dyfodol."