Beiciau OVO yn dychwelyd i Fro Morgannwg
MAE defnyddwyr yn cael cynnig credyd o £5 i ddathlu’r ffaith fod OVObikes yn dychwelyd i Fro Morgannwg.
Gall cwsmeriaid neidio ar gefn eu beic unwaith eto yn dilyn egwyl o ddau fis.
I ddathlu eu dychweliad, mae'r gweithredwyr Nextbike wedi creu cod taleb gwerth £5, RELAUNCH22, y gall unrhyw un ei ddefnyddio.
Cafodd y cynllun ei atal dros dro yng Nghaerdydd a'r Fro ym mis Tachwedd ar ôl i nifer fawr o achosion o fandaliaeth a dwyn yng Nghaerdydd adael y fflyd yn brin ac yn methu gweithredu’n effeithiol.
I ddechrau, bydd yn ail-lansio gyda 400 o feiciau o'r gorsafoedd defnydd uchaf, gyda mwy yn cael eu hychwanegu dros y misoedd nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth: "Rydw i wrth fy modd o weld OVObikes yn dychwelyd i Fro Morgannwg gan fod y cynllun yn hynod boblogaidd cyn iddo gael ei atal.
"Yn ogystal â'r chwe gorsaf llogi beics trydan presennol yn y Fro, rwy'n falch o gyhoeddi y bydd pedair gorsaf beics trydan arall yn cael eu gosod erbyn diwedd mis Mawrth, ym Mhenarth, Sili a Dinas Powys.
"Yn unol â'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gennym yn 2019, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi dulliau trafnidiaeth actif a chynaliadwy. Mae'r beiciau'n syml i'w defnyddio ac mae eu tariffau fforddiadwy yn cymharu'n ffafriol â chost teithio mewn car, bws neu drên.
"Gallant wella iechyd a lles cymudwyr a thrigolion ac maent hefyd wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid."
Lansiwyd fflyd o 50 o e-feiciau ym Mhenarth yn 2020, sydd wedi bod yn hynod boblogaidd gyda'r cyhoedd.
Mae e-feic yn gyfuniad o feic confensiynol a modur sy'n golygu bod angen gwneud llai o ymdrech i bedlo. Gyda chyflymder uchaf o 25km yr awr, gall yr e-feiciau deithio’n bellach yn gynt a gyda llai o ymdrech.
Enwyd OVO Energy yn brif noddwr ym mis Awst, ac mae eu henw nhw ar gynllun Glasgow hefyd.
Bydd rhentu e-feic yn costio £1 am 30 munud i gwsmeriaid sydd ag aelodaeth fisol neu flynyddol neu £2 am 30 munud ar sail talu wrth deithio.