Cost of Living Support Icon

 

Mae Llyfrgelloedd Bro Morgannwg wedi cyflwyno 3000 o ddelweddau hanesyddol i Brosiect Casgliad y Werin Cymru

Mae llyfrgelloedd yn y Fro wedi bod yn casglu lluniau lleol sy'n dyddio o’r 19eg ganrif i’r 21ain i’w cyflwyno i Brosiect Casgliad y Werin Cymru.

 

  • Dydd Mawrth, 04 Mis Ionawr 2022

    Bro Morgannwg



3000 images collection 2

Mae staff a gwirfoddolwyr llyfrgell y Barri wedi cynnal 'Gorsaf Dreftadaeth' lle'r oedd aelodau o'r cyhoedd a sefydliadau treftadaeth yn gallu mynd â’u lluniau i'w sganio a'u catalogio ar gyfer y casgliad.


Yn ddiweddar cyflwynwyd y 3000fed llun i wefan Casgliad y Werin Cymru, rhan o brosiect Casgliad y Werin Cymru, a ariennir ac a arweinir gan Lywodraeth Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

 

Nod y prosiect yw cofnodi a dathlu hanes cyfoethog Cymru gyda chipluniau a straeon 3000 images collection 1unigryw.

 

Cyfrannodd Phillip Berry, mab Beatrice Berry a wirfoddolodd yn Ysbyty St. John's Penarth fel nyrs, lun o staff a chleifion o'r ysbyty, yn dyddio'n ôl i 31 Mawrth 1919.

 

Tynnwyd llun arall yn y casgliad yng Ngharnifal Gwisg Ffansi'r Bont-faen yn 1929 gan Kitty Watts. Mae'r ffotograff o ferch Kitty, Judy Watts, wedi'i gwisgo fel yr Hugan Fach Goch, gdya morwyn y teulu, Lilian Davy, wedi'i wisgo fel lleian.

 

Un o'r delweddau mwyaf anarferol yw ffotograff o'r eliffantod syrcas  yn Watchtower Bay yn y Barri. Tynnwyd y llun gan Eileen Norman yn 1953 ac mae bellach yn eiddo i Alison Wood a John Howells.


Mae'r casgliad cyfan o ffotograffau ar gael ar wefan Casgliad y Werin.

Dywedodd Melanie Weeks, Uwch Lyfrgellydd Llyfrgell Penarth: "Mae uwchlwytho 3000 o luniau i Gasgliad y Werin Cymru wedi bod yn gamp go iawn ac yn un na allai fod wedi digwydd heb ymroddiad tîm gwych o wirfoddolwyr.


"Mae pob llun yn adrodd stori, ond ymhlith fy ffefrynnau mae'r eliffantod syrcas sy'n ymdrochi ym Mae Watchtower a'r gwisgoedd  ffansi yng Ngharnifal y Bont-faen yn y 1920au."

Mae timau'r llyfrgell am recriwtio rhagor o wirfoddolwyr i helpu gyda'r prosiect, felly os oes gennych sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol a diddordeb mewn hanes lleol cysylltwch â Melanie Weeks ar 01446 773941 neu e-bost 

 cowbridgelibrary@valeofglamorgan.gov.uk.