Cost of Living Support Icon

 

Hysbysiadau Cosb Benodedig am dipio anghyfreithlon yn y Barri

 

Mae tri o bobl wedi derbyn Hysbysiadau Cosb Benodedig am dipio anghyfreithlon yn dilyn ymchwiliad gan Gyngor Bro Morgannwg.

 

  • Dydd Iau, 16 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg



Fly-tipping in Barry 2

Mae Swyddogion Gorfodi o Uned Troseddau Gwastraff y Cyngor wedi bod yn ymchwilio i dri achos o dipio anghyfreithlon ar wahân, yng nghanol tref y Barri, ers mis Ebrill.

 

Ymhob achos, cafodd llawer iawn o wastraff cartref ei ddympio'n anghyfreithlon mewn lonydd cefn yn wardiau Castleland a Court.

 

Gwelodd swyddogion dystiolaeth ym mhob un o'r tri achos ac anfonwyd holiaduron at y rhai a ddrwgdybiwyd yn unol â Chod C Deddf Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (lle gofynnir y cwestiynau hynny o dan Rybudd PACE).

 

Methodd dau o'r rhai a ddrwgdybiwyd â chydweithredu â'r swyddogion a chyfaddefodd y trydydd i'r drosedd.

 

Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 i bob un o'r troseddwyr am drosedd tipio anghyfreithlon (yn groes i adran 33  Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990) ac os na fyddant yn talu'r Hysbysiadau hynny, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg, caiff y cynnig o Gosb Benodedig ei dynnu'n ôl a chaiff pob achos ei erlyn yn y  Llys Ynadon.

 

Fly-tipping in Barry 3

Ar ôl eu heuogfarnu, byddai’r troseddwyr yn derbyn cofnod troseddol a gellid rhoi dirwy iddynt o hyd at £50,000 a/neu ddedfryd o garchar.

 

Nid oes gan Gyngor Bro Morgannwg unrhyw oddefgarwch tuag at dipio anghyfreithlon a hi, hyd yma, yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i'r ymgyrch #SCRAPflytipping, menter sy'n cael ei rhedeg gan gydweithwyr yn Swydd Hertford, sydd wedi'i mabwysiadu gan awdurdodau lleol ledled Lloegr ac sy'n defnyddio dull amlasiantaethol o fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.

 

Gellir rhoi gwybod am achosion o dipio anghyfreithlon ar wefan y Cyngor, lle gellir gweld gwybodaeth ar sut i gael gwared ar wastraff yn gyfrifol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladau – Y Cynghorydd Mark Wilson:  "Nid oes gan y Cyngor unrhyw oddefgarwch tuag at dipio anghyfreithlon ac mae'n falch o fod wedi adnabod y bobl y tu ôl i'r digwyddiadau diweddar hyn.

 

"Mae ein swyddogion gorfodi amgylcheddol yn ymateb i adroddiadau am dipio anghyfreithlon ac yn patrolio mannau poblogaidd ar gyfer tipio anghyfreithlon yn rheolaidd.

 

"Bydd y Cyngor yn parhau i gymryd y mater hwn o ddifrif a cosbir unrhyw un y canfyddir ei fod wedi cyflawni'r drosedd. Mae canlyniadau cael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon yn amrywio o gael Hysbysiad Cosb Benodedig, i ddirwyon o hyd at £50,000 neu hyd yn oed garchar.