Cost of Living Support Icon

 

Ehangu’r cynllun Tocyn Euraidd

Yn ddiweddar, mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ehangu'r cynllun Tocyn Euraidd i Ddwyrain a Gorllewin y Fro, gan helpu mwy o drigolion 60+ oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.

 

  • Dydd Mawrth, 07 Mis Mehefin 2022

    Bro Morgannwg



Mae cynllun Tocyn Euraidd yn cael ei dreialu yn y Barri ers mis Medi 2021 ac mae dros 100 o drigolion wedi cael mynediad i'r wyth o sesiynau am ddim a gynigir.

 

Mae tri Hyb Gweithgareddau bellach ar gael.  Mae'r rhain yn y Barri; y Fro Orllewinol, gyda gweithgareddau wedi'u lleoli'n bennaf yn y Bont-faen, Llanilltud Fawr a'r Rhws; a'r Fro Ddwyreiniol, gyda gweithgareddau wedi'u lleoli'n bennaf yn Ninas Powys a Phenarth. 

 

Mae dros 40 o Ddarparwyr Gweithgareddau yn rhan o'r cynllun sy'n cynnig dros 100 o wahanol gyfleoedd yn amrywio o Saethyddiaeth i Zumba.  Bydd y sesiynau sydd ar gael yn amrywio ym mhob ardal, ond mae'r tîm yn annog preswylwyr i roi adborth ar y ffordd orau o ddiwallu eu hanghenion.

 

Gall preswylwyr gofrestru drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein. 

 

Yna byddant yn derbyn pecyn croeso yn y post, gyda chanllaw cam wrth gam ar sut i gael mynediad i'r gweithgaredd a manteisio i’r eithaf ar y prosiect. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Hamdden, Chwaraeon a Lles, Gwyn John "Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion 60+ oed ledled y Fro gael mynediad at weithgareddau ar garreg eu drws. Nawr bod cyfyngiadau COVID-19 wedi lleddfu, gall preswylwyr fynd yn ôl allan yn y gymuned a dechrau gweithgaredd newydd o'u dewis.  

 

"Diolch yn fawr i Chwaraeon Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am eu buddsoddiad parhaus mewn cymunedau ledled Bro Morgannwg." 

 

Os bydd cyllid ar gael yn y dyfodol, bydd Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried  ardaloedd pellach i gynnig gweithgareddau er mwyn cyrraedd cymaint o drigolion â phosibl.

 

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch goldenpass@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 07596 889067.