Cost of Living Support Icon

 

Arweinyddiaeth wleidyddol newydd Cyngor Bro Morgannwg wedi i datgelu

Mae'r Cynghorydd Lis Burnett yn bennaeth ar Gabinet Cyngor Bro Morgannwg ar ei newydd wedd ar ôl cael ei chadarnhau’n Arweinydd newydd yr Awdurdod.

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Mai 2022

    Bro Morgannwg



Cafodd ei hethol i’r swydd fel rhan o weithrediaeth wleidyddol wyth person yn y Cyfarfod Blynyddol ddydd Llun.


Mae'r Cabinet yn cynnwys pum menyw a thri dyn, gyda'r Cynghorydd Burnett, y Dirprwy Arweinydd Bronwen Brooks, Rhiannon Birch, Mark Wilson, Margaret Wilkinson a Ruba Sivagnanam yn dod o Lafur a Gwyn John ac Eddie Williams yn cynrychioli Grŵp Llanilltud yn Gyntaf.

 

Burnett, Lis"Rwf wrth fy modd o gael fy ethol yn Arweinydd newydd Cyngor Bro Morgannwg," meddai'r Cynghorydd Burnett.


"Mae hyn yn gyfnodcyffrous wrth i ni geisio bwrw ymlaen i gyflawni ein maniffesto uchelgeisiol sy'n cynnwys prosiectau seilwaith mawr ynghyd ag ymrwymiad i adfywio a'n menter Prosiect Sero i fod yn garbon niwtral.

 

"Mae'r Cabinet newydd yn adlewyrchu fy nymuniad am well cydbwysedd rhwng y rhywiau ac amrywiaeth nid yn unig mewn gwleidyddiaeth ond ym mhob swydd â phŵer.


"Mae'n bwysig bod arweinyddiaeth wleidyddol ardal yn cynrychioli'n briodol y bobl y mae'n eu gwasanaethu a bydd hynny'n ystyriaeth allweddol wrth symud ymlaen.


"Mae llawer wedi'i gyflawni yn y Fro dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd.


"Bydd cyfranogiad y cyhoedd yn ganolog i newid yn y dyfodol, gyda thrigolion yn cymryd rhan weithredol yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt."


Mae'r Cynghorydd Burnett yn camu i fyny o rôl y Dirprwy Arweinydd, a oedd ganddi o dan weinyddiaeth glymblaid Llafur/Llanilltud yn Gyntaf/Annibynwyr y Fro y tymor diwethaf, gyda'r Cynghorwyr Williams a Wilkinson hefyd yn cael eu cadw o'r Cabinet hwnnw.

Teitl ei phortffolio yw Perfformiad ac Adnoddau ac mae'n cwmpasu meysydd fel Gwasanaethau Ariannol, Trawsnewid Digidol ac Adfywio Strategol, ac mae’r Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Brooks wedi'i enwi'n Aelod Cabinet dros Leoedd Cynaliadwy.


Mae’r Cynghorydd Rhiannon Birch yn gyfrifol am Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg. Portffolio'r Cynghorydd Wilkinson fydd Tai sector cyhoeddus ac Ymgysylltu â Thenantiaid, bydd y Cynghorydd Wilson yn gyfrifol am Wasanaethau Cymdogaeth ac Adeiladu.


y Cynghorydd Williams yw'r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, ac mae Ruba Sivagnanam yn gyfrifol am wasanaethau Ymgysylltu â'r Gymuned, Cydraddoldeb a Rheoleiddio.


Y Cynghorydd John fydd yn rheoli'r Portffolio ar gyfer Hamdden, Chwaraeon a Lles.